Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Ateb natur i'r newid yn yr hinsawdd

Nid yn unig fod bywyd gwyllt a llystyfiant yn ffynnu yn y gwlyptiroedd hyn, ond maent hefyd yn digwydd bod yn storfa garbon naturiol wych.

Deall mawndiroedd

Mae mawndiroedd yn rhan annatod o dirwedd Eryri.

Storfa garbon wych
Mae mawndiroedd yn storio mwy na dwywaith gymaint o garbon â fforestydd y byd. Er mai 3% yn unig o arwyneb y byd sy'n fawndir, mae'n yn dal bron i 30% o'r holl garbon sydd yn y pridd
Mawndir Eryri
Er mai 12% yn unig o arwyneb Eryri sy'n fawndir, mae mawn dwfn yn storio 17 miliwn tunnell o garbon, sef oddeutu 52% o'r holl garbon sydd yn y pridd yn y Parc Cenedlaethol.
Y Migneint
Mae'r Migneint, sydd wedi ei leoli yng nghanol Eryri, yn fawndir enfawr sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd o ran adar nythu megis y Gylfinir, Cudyll Bach, Boda Tinwyn a'r Hebog Tramor.
Wedi'i ffurfio dros nifer o flynyddoedd

Mae'n cymryd 10 mlynedd i ffurfio 1cm o fawn. Byddai'n cymryd mileniwm i ffurfio 1 metr o fawn.
Trysorfa o arteffactau cynhanesyddol
Mae llu o drysorau cynhanesyddol wedi'u darganfod mewn mawndiroedd. Mae natur y tirweddau hyn yn golygu nad yw arteffactau o'r gorffennol yn pydru nac yn erydu.

Sut mae mawndiroedd yn storio carbon?

Cyflwr dyfrlawn mawndiroedd sy’n gwneud yr ecosystemau hyn yn unigryw. Mae’n golygu bod planhigion a llystyfiant yn pydru’n hynod o araf o gymharu ag ecosystemau eraill—nid yw planhigion a mwsogl yn torri lawr yn gyfan gwbl. Mae’r amodau hyn yn galluogi mawndiroedd i storio cryn dipyn o  garbon yn y pridd.

Bywyd gwyllt a llystyfiant mawndiroedd
Mae amodau unigryw mawndiroedd yn denu amrywiaeth unigryw o fywyd gwyllt a llystyfiant.

Amddiffyn mawndiroedd

Adfer mawndiroedd sydd wedi’u difrodi
Ar un adeg, roedd mawndiroedd yn cael eu hystyried yn dir diffaith heb fawr o ddefnydd amaethyddol, felly cawsant eu torri am danwydd, eu llosgi i reoli llystyfiant, a’u draenio i geisio gwella’r tir ar gyfer da byw. Arweiniodd yr holl weithgarwch hwnnw at sychu’r mawn, gan ryddhau tunelli o nwyon tŷ gwydr a gwagio’r storfa garbon werthfawr honno. Rydym bellach yn deall pwysigrwydd adfer mawndiroedd i’w ffurf naturiol, wlyb er mwyn lleihau allyriadau a diogelu’r storfa garbon honno. Mae prosiectau adfer mawndiroedd wedi dod yn rhan bwysig o ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae oddeutu 75% o fawndiroedd Cymru wedi’u difrodi neu wedi’u haddasu. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd ati i adfer a rheoli mawndiroedd sydd wedi’u difrodi yn Eryri.

Defnyddio compost di-fawn
Mae cloddio mawn i’w ddefnyddio i arddio yn achosi i fawndiroedd ollwng amcangyfrif o 16 miliwn tunnell o garbon bob blwyddyn – sy’n cyfateb yn fras i allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol dros 12 miliwn o geir. Yn ffodus, mae compost di-fawn yn fwy addas i’r rhan fwyaf o’n planhigion gardd, ac mae digon o ddewisiadau di-fawn ar gael.

Rheoli cynaliadwy
Mae rheoli cynaliadwy yn allweddol er mwyn gwarchod mawndiroedd. Gall rheoli effeithiol olygu cynnwys cymunedau lleol yn y cynllun rheoli yn ogystal â chefnogi rheolwyr tir i reoli mawndiroedd mewn modd cynaliadwy. Mae newidiadau pori eisoes wedi gwneud gwelliannau enfawr ar rai safleoedd. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn gweithio gyda’r Cod Mawndiroedd i ganfod atebion hirdymor i ariannu gwaith adfer a rheoli mawndiroedd drwy gredydau carbon.

Prosiect Mawndiroedd Cymru

Roedd prosiect mawndiroedd Cymru yn brosiect partneriaeth gwerth £1m dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i helpu i wella cyflwr mawndiroedd Cymru drwy adfer a rheoli.

Prosiet Adfer Mawndiroedd