Mae tirweddau ucheldirol Eryri yn un o brif atyniadau’r Parc Cenedlaethol.
Mynyddoedd trawiadol, copaon uchel a golygfeydd diddiwedd
Does ryfedd fod Eryri yn cael ei hadnabod fel paradwys i’r cerddwyr a’r crwydrwyr. Mae yma 9 cadwyn o fynyddoedd a 15 copa uwchlaw 3,000 troedfedd.
Mae tirwedd Eryri wedi datblygu a ffurfio dros filiynau o flynyddoedd drwy ddigwyddiadau daearegol anghredadwy
Mae tirwedd Eryri yn stori dditectif, ddaearegol gymhleth. Bu yma gyfandiroedd yn gwrthdaro, llosgfynyddoedd yn ffrwydro a rhewlifoedd yn cerfio’r tir dan draed.
Y digwyddiadau daearegol yma sy’n gyfrifol am dirlun syfrdanol Eryri.
Bywyd Gwyllt Ucheldiroedd Eryri
Lili’r Wyddfa
Rhywogaeth fwyaf adnabyddus Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Lili’r Wyddfa yn blanhigyn blodeuog prin iawn sydd yn tyfu mewn mannau ucheldirol.
Merlod Gwyllt
Mae gweld merlod gwyllt yn Eryri yn brofiad arallfydol. Mae oddeutu 300 ohonynt yn byw mewn ardal o 20 milltir sgwâr.
Geifr mynydd gwyllt
Gall geifr gwyllt Eryri ddringo clogwyni anhygoel o serth. Mae’n debyg eu bod wedi crwydro ucheldiroedd Eryri ers canrifoedd.
Frân Goesgoch
Y frân goesgoch yw’r math prinnaf o frân sy’n magu ym Mhrydain. Mae fwy neu lai’r un maint â jac-y-do. Mae ganddi big a choesau coch sy’n ei gwahaniaethu o weddill teulu’r frân.
Chwilen Yr Wyddfa
Dyma rywogaeth hynod brin sydd ond i’w weld ar rhai o lethrau’r Wyddfa. Mae adlewyrchiad golau ar gragen y chwilen yma’n arwain at gymysgedd o liwiau syfrdanol.
Yr Hebog Tramor
Yr Hebog Tramor yw’r mwyaf o deulu’r hebogiaid. Gall gyrraedd 200 milltir yr awr wrth wibio drwy’r awyr i ddal adar bychain.
Mwyalchen y Mynydd
Aderyn yr ucheldir yw Mwyalchen y Mynydd yn bennaf. Mae’n bridio fel arfer mewn dyffrynnoedd serth neu ar greigiau a chlogwyni.
Tormaen Glasgoch
Mae'r tormaen glasgoch yn un o flodau artig alpaidd mwyaf gwydn Cymru, sy'n tyfu mewn rhanbarthau mynyddig hynod oer a phellennig.