Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Mynyddoedd trawiadol, copaon uchel a golygfeydd diddiwedd

Does ryfedd fod Eryri yn cael ei hadnabod fel paradwys i’r cerddwyr a’r crwydrwyr. Mae yma 9 cadwyn o fynyddoedd a 15 copa uwchlaw 3,000 troedfedd.

Mae tirwedd Eryri wedi datblygu a ffurfio dros filiynau o flynyddoedd drwy ddigwyddiadau daearegol anghredadwy

Mae tirwedd Eryri yn stori dditectif, ddaearegol gymhleth. Bu yma gyfandiroedd yn gwrthdaro, llosgfynyddoedd yn ffrwydro a rhewlifoedd yn cerfio’r tir dan draed.

Y digwyddiadau daearegol yma sy’n gyfrifol am dirlun syfrdanol Eryri.

Darganfod Daeareg Eryri

Bywyd Gwyllt Ucheldiroedd Eryri
Trosolwg o ucheldiroedd Eryri

Mae tirweddau ucheldirol Eryri yn un o brif atyniadau’r Parc Cenedlaethol.

Y Carneddau
Y Carneddau yw’r ardal fwyaf o ucheldir di-dor dros 2,500 troedfedd yng Nghymru.
Golygfeydd syfrdanol
Ar ddiwrnod clir mae posib gweld 18 llyn, 14 copa, Iwerddon, Ynys Manaw a hyd yn oed Ardal y Llynnoedd o gopa’r Wyddfa.
Hafod Eryri
Hafod Eryri yw’r ganolfan ymwelwyr anhygoel ar gopa’r Wyddfa, ac fe’i hadeiladwyd o goed derw lleol a gwenithfaen, gyda ffenest wydr ‘yn edrych ar y byd’.
Llwybrau'r Wyddfa
Mae chwe llwybr yn arwain i gopa’r Wyddfa - Llwybr Llanberis, Llwybr y Mwynwyr, Trac PyG, Llwybr Watkin, Llwybr Rhyd Ddu a Llwybr Cwellyn.
Mytholeg a Llên Gwerin
Mae Cader Idris yn enwog am fod yn gysylltiedig â llu o fytholeg a llên gwerin.
Daeareg anghredadwy
Ffurfiwyd rhan helaeth o fynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri gan ddigwyddiadau tectonig, symudiadau rhewlifol a ffrwydradau llosgfynyddoedd.