Ym mis Mawrth 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau oedd yn mynd i’r afael â phandemig COVID-19. Un o’r mesurau oedd y rheol i aros adref. Newidiodd bywydau poblogaeth Cymru dros nos wrth iddyn nhw ddod i’r arfer â’r ‘normal newydd’ syfrdanol yma.
O ganlyniad, caewyd rhannau o’r Parc Cenedlaethol i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers i Eryri gael ei dynodiad gan adael ei thirwedd a’i bywyd gwyllt yn rhydd o aflonyddwch.
Arolwg Bywyd Gwyllt Dan Glo
Yn 2020, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y naturiaethwr, Ben Porter i gynnal arolygon bywyd gwyllt yn edrych ar yr effeithiau ar fywyd gwyllt yng ngogledd-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod clo.
Roedd yr adroddiad yn ystyried llond llaw o safleoedd ar draws gogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys:
- Yr Wyddfa
- Cader Idris
- Y Carneddau a Chwm Idwal
- Iseldiroedd Coed y Brenin
- Ceunant Llennyrch
- Llanddwyn, Ynys Mon
Cynhaliwyd yr arolwg mewn dwy ran—asesiad cychwynnol ym mis Mehefin 2020 ac asesiad pellach yn ystod y tymor prysur ym mis Mehefin 2021.
Darganfyddiadau’r Arolwg
Datgelodd yr arolwg a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod clo fod rhai adar a phlanhigion wedi ymateb yn gadarnhaol i’r lleihad o aflonyddwch. Gostyngwyd lefelau sbwriel yn sylweddol hefyd.
Datgelodd yr ail arolwg yn 2021 y gwrthwyneb. Cofnodwyd llai o doreth ac amrywiaeth o adar, ynghyd â mwy o sbwriel a mwy o erydiad llwybrau troed.
Adar
Cofnodwyd llai o rywogaethau adar ar ôl y cyfnod clo o’i gymharu ag yn ystod y clo – cyfanswm o 65 o rywogaethau adar ar draws safleoedd yr ucheldir yn 2020, o’i gymharu â 50 yn 2021.
Yn 2020, roedd llawer o rywogaethau adar, gan gynnwys Meadow pipit, Wheatears a hyd yn oed Ring Ouzels, yn bridio yn agos at y llwybrau a oedd fel arfer yn boblogaidd, yn enwedig mewn ardaloedd ucheldirol. Nid yw’n syndod nad oedd hyn yn wir yn 2021, gydag ychydig o adar yn nythu yn agos at lwybrau.
Ar Ynys Llanddwyn, nid oedd unrhyw arwydd o Gwtiad Torchog, a gofnodwyd yn nythu ar y traeth bach ger Twr Mawr yn 2020. Gellid priodoli absenoldeb y rhywogaeth yma, sy’n sensitif iawn i aflonyddwch, i darfu cynyddol gan ymwelwyr yn ystod 2021. Yn yr un modd, dim ond un pâr o Bioden y Môr a welwyd o amgylch Ynys Llanddwyn yn 2021, lle cofnodwyd saith pâr yn bridio yn 2020 – gwahaniaeth arall a allai gael ei briodoli i ddychwelyd i nifer uchel o ymwelwyr yn ystod y tymor magu.
Roedd ffactorau eraill ar waith yn ystod yr arolwg, oedd yn debygol o chwarae rhan fawr yn y gwahaniaethau hyn hefyd, yn enwedig yn yr ucheldir. Roedd cyferbyniad llwyr yn amodau tywydd y ddau dymor, gyda gwanwyn oer iawn yn 2021 yn gohirio tymhorau bridio i lawer o adar yr ucheldir, gan arwain at lai o adar bridio yn cael eu cofnodi adeg yr arolwg yn 2021.
Serch hynny, mae rôl aflonyddwch cynyddol yn sgîl dychwelyd nifer uchel o ymwelwyr mewn rhai ardaloedd yn ffactor allweddol sydd wedi chwarae rhan yn y gwahaniaethau rhwng 2020 a 2021.
Sbwriel
Un cyferbyniad amlwg ond digalon rhwng 2020 a 2021 oedd y cynnydd sbwriel a gwastraff a gofnodwyd. Cofnododd yr arolwg 418 darn o sbwriel mewn ardaloedd ucheldirol yn 2021 o’i gymharu â 93 o eitemau yn 2020. Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf oedd Yr Wyddfa a Dyffryn Ogwen. Niwbwrch oedd y safle iseldirol yr effeithiwyd arno fwyaf.
Gwersylla gwyllt
Gwelwyd gwersylla gwyllt yn ystod yr astudiaeth – problem sylweddol ers yr ailagor, ar ôl y clo, gyda nifer fawr o bobl yn gwersylla’n anghyfreithlon o amgylch safleoedd poblogaidd, gan adael llawer iawn o sbwriel, gwastraff a nwyddau ymolchi are u hôl.
Erydiad
Roedd llwybrau troed poblogaidd yn dangos arwyddion o ledu ac erydiad wrth i ymwelwyr ddychwelyd. Er enghraifft, mae’r prif lwybr troed sy’n esgyn Y Garn o Twll Du (Cwm Idwal) mewn perygl o ehangu ymhellach ac effeithio ar gymunedau sensitif Helyg Corrach. Yn Ceunant Llennyrch ac ar Lwybr Watkin i’r Wyddfa, mae llwybrau troed yn effeithio ar gymunedau pwysig o redyn a mwsoglau mewn rhai ardaloedd.
Defnyddio canfyddiadau’r arolygon
Gan ystyried yr arolygon, dywedodd Ben Porter: “Er ein bod yn gwybod bod angen data tymor hwy ar gyfer cymariaethau mwy dibynadwy â chyfnod clo eithriadol 2020, mae arwyddion clir yma am effaith pobl ar y byd naturiol.”
Er mai dim ond cipolwg ydyw, mae rhai arsylwadau diddorol y gellir eu hystyried i reoli twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy fel rhan o adferiad gwyrdd Cymru allan o’r pandemig.