Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Wardeiniaid Eryri yma i'ch cynorthwyo

Mae tîm o Wardeiniaid yn cadw golwg ar Barc Cenedlaethol Eryri, gyda phob Warden yn gyfrifol am ardal benodol.

Mae swyddogaeth y Wardeiniaid yn un hynod ddiddorol ac amrywiol, sy’n cynnwys cynghori’r cyhoedd ar ddefnydd diogel a chyfrifol o gefn gwlad, cysylltu gyda pherchnogion a rheolwyr tir i gynorthwyo gyda materion mynediad a rheolaeth ymwelwyr. Maent hefyd yn gweithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol gyda phrosiectau addysg a chadwraeth.

Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol

Gan weithio gyda staff stad a thimau llwybrau, mae’r Wardeiniaid yn cynorthwyo i wneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd trwy ymgymryd â phrosiectau gwella mynediad mewn cydweithrediad â pherchnogion a rheolwyr tir. Mae hyn yn cynnwys gwaith megis ail-wynebu llwybrau, codi camfeydd neu eu cyfnewid am gatiau lle fo’n bosib, codi arwyddion cyfeirio llwybr a gwaith cynnal a chadw cyffredinol.

Trwy eu gwaith, mae’r Wardeiniaid yn dod i adnabod eu hardal yn drylwyr ac maent yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth. Maent hefyd yn wyneb cyfeillgar sydd ar gael i gynnig cyngor ar gyfleoedd hamddena yn eu hardal er mwyn eich helpu i fwynhau profiad diogel a phleserus ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Warden
Cysylltwch â’r tîm

Cysylltwch â Gwasanaeth Wardeinio Parc Cenedlaethol Eryri:

Cysylltwch â’r tîm

A National Park Authority warden uses a spade to work an a woodland footpath.
Gwaith y Warden

Dysgwch fwy am waith Wardeiniaid Eryri.

Gwaith y Warden

A National Park Authority warden leans on a white pick-up truck.
Gyrfaoedd a Chyfleoedd

Dysgwch am gyfleoedd i ymuno â thîm Wardeinio Eryri.

Gyrfaoedd a Chyfleoedd

Wardeiniaid Gwirfoddol

O bryd i’w gilydd, bydd cyfle i ddod yn Warden Gwirfoddol yn codi ar gyfer ardaloedd Yr Wyddfa a Chader Idris. Mae’r manteision o ddod yn Warden Gwirfoddol yn cynnwys…

  • Cyfle i fod yn rhan o dîm a chwrdd â phobl newydd.
  • Gwella eich profiad Mynydda.
  • Amrywiaeth o gyrsiau a theithiau cerdded gydag amrywiol arbenigwyr lleol e.e. cymorth cyntaf, hanes lleol, daeareg ardal Yr Wyddfa.
  • Profiad gwych all eich cynorthwyo i ganfod cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Gwella eich gwybodaeth ynghylch rheolaeth cefn gwlad.
  • Cyfle i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy Eryri.

I ddysgu mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol yn Eryri, ewch i’n tudalen gwirfoddoli trwy ddilyn y ddolen isod.

Gwirfoddoli

Countryside Code logo.
Y Côd Cefn Gwlad
Gwarchodwch harddwch naturiol Eryri a'i bywyd gwyllt trwy ddilyn y Côd Cefn Gwlad.
Y Côd Cefn Gwlad