Cylchdaith yw hwn ar stad Nannau sydd ar gyrion Dolgellau. Gyda chydweithrediad y tirfeddianwr, mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid wedi ail agor cylchdaith sy’n cynnig golygfeydd godidog o dde Meirionnydd, a gallwch ddringo i’r copa os am weld ymhellach.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r llwybr yn cynnig digonedd o olygfannau er mwyn gweld rhai o fynyddoedd mwyaf trawiadol Eryri. I’r gogledd saif Yr Wyddfa a’r Moelwynion ac i’r gorllewin saif y Rhinogydd. Mae Cader Idris, yr Aran a’r Arenig i’w gweld tua’r de a’r dwyrain.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Llwybr caled at olygfan y de, fel arall llwybr naturiol, anwastad mewn mannau, heb raddiannau serth. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Saithgroesffordd , Llanfachreth (SH 746 212)
Mae hefyd doiledau cyhoeddus yn y maes parcio hwn. Gwiriwch i weld pryd y maent ar agor.
Maes parcio Saithgroesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)
Os ydych chi’n gyrru, parciwch mewn mannau parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn ardaloedd lle rydych chi’n rhwystro mynedfeydd i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Byddwch yn ddiogel a helpwch ni i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Abaty Cymer
Dafliad carreg o Lyn Cynwch, ger cymuned Llanelltyd, saif Abaty Cymer—abaty Sistersaidd a sefydlwyd ym 1198. Mae gan yr abaty gysylltiadau cryf â Thywysogion Cymru. Credir iddo gael ei sefydlu dan nawdd dau frawd, Gruffudd a Maredudd ap Cynan, wyrion Owain Gwynedd.
Stad Nannau
Ar yr ochr ddeheuol i Lyn Cynwch mae plasty stad Nannau.
Mae gan Nannau hanes hynod ddiddorol o gymeriadau eiconig Cymreig. Adeiladwyd y tŷ presennol, sydd bron i 750 troedfedd uwch lefel y môr, yn 1796 ac roedd yn gartref i’r teulu Vaughan, a oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o dir yr ardal. Mae’n dŷ carreg trillawr o ddiwedd y 18fed ganrif a godwyd gyda blociau nadd o garreg lwyd tywyll leol. Nannau oedd y plas olaf i ymarfer yr hen draddodiad o noddi beirdd a thelynorion.