Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi ein bod yn lansio ymgyrch gyfathrebu unigryw sydd yn cael ei arwain gan ‘Brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig’.

Gyda’r nod o herio problemau sbwriel a hyrwyddo ymarferion cynaladwy mae’r ymgyrch arloesol yma yn anelu at godi ymwybyddiaeth, hybu tueddiadau ymddygiad bositif a sefydlu Eryri fel lleoliad sy’n arwain y gâd i fod yn eco-gydwybodol.

Mae’r Awdurdod wedi gweithio mewn partneriaeth gyda rhai o ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol brwdfrydig a defnyddio cymeriadau’r Mabinogion i ryngweithio â darnau o sbwriel yn ardaloedd mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yma’n dal dychymyg ein cynulleidfa, yn cynnau trafodaethau ac yn tanlinellu pwysigrwydd o fynd a’n sbwriel adref a chael gwared o’r defnydd o blastig untro.

 

Dywedodd Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Ddi-Blastig yr Awdurdod:

 “Rydym yn credu’n gryf yng nghreadigrwydd ein llên gwerin. Trwy gyfuno chwedlau’r Mabinogion gyda materion y byd go iawn rydym yn gobeithio cysylltu â chynulleidfa eang a gwneud newid go iawn yn ein Parc Cenedlaethol.”

 

Mae bwriad yr ymgyrch yn mynd ymhellach na chodi ymwybyddiaeth am broblemau sbwriel. Mae’r Awdurdod yn gobeithio annog newid bositif mewn ymddygiad trwy ysbrydoli trigolion ac ymwelwyr i fod yn geidwaid dros yr amgylchedd. Trwy roi sylw i effeithiau niweidol sbwriel a phlastigion untro, mae ‘Prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig’ yn ymdrechu i sbarduno trafodaethau, hyrwyddo cyfrifoldeb cyfunol a meithrin Eryri gwyrdd a glân.

Ymhellach i hyn mae’r ymgyrch yn pwysleisio’r buddianau economaidd o fod yn gyrchfan ddi-blastig. Trwy groesawu ymarferion cynaladwy gall Eryri fod yn ardal sy’n atyniadoli eco-ymwelwyr. Gan ddenu ymwelwyr cydwybodol, gall busnesau, sefydliadau a rheolwyr tir gael budd economaidd hir-dymor o hyn.

Er mwyn ymestyn effaith y prosiect mae Awdurdod y Parc wedi datblygu strategaeth aml-sianel i hyrwyddo’r ymgyrch. Bydd y cynnwys cyfareddol yma yn cael ei rannu ar y sianeli traddodiadol fel Instagram, Trydar a Facebook a bydd sianeli newydd ar gyfer cymeriadau’r Mabinogion fydd yn cael ei gyd-rannu gan y dylanwadwyr. Yn ychwanegol i hyn bydd y wefan yn cael ei ddefnyddio fel hwb ar gyfer gwybodaeth ychwanegol, diweddariadau ac i rannu adnoddau.

Mi fydd posteri deniadol yn weladwy ym mhob rhan o’r Parc Cenedlaethol mewn lleoliadau strategol ar safleodd Awdurdod y Parc, gan annog ymwelwyr i gymryd rhan ac ymuno yn y symudiad tuag at ddyfodol di-blastig. Mae pecyn digidol hefyd yn cael ei ddatblygu er mwyn darparu busnesau, mudiadau a rheolwyr tir gydag adnoddau i groesawu ymarferion cynaladwy o fewn eu sefydliadau.

Yn ychwanegol i hyn oll, mi fydd ‘Prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig’ yn rhyddhau fideo arbennig o olygfeydd tu ôl i’r llen ar benwythnos gwreiddiol y prosiect gyda cherddoriaeth gan y gyfansoddwraig lleol Hero Douglas fydd yn cyfuno diwylliant Cymreig, natur a’r angen i fynd yn ddi-blastig. Mae’r ymdrech greadigol hyn yn gobeithio ymgysylltu a chynulleidfaoedd ar draws cenhedlaethau ac ysbrydoli newid trwy gerddoriaeth.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwahodd pawb i ymuno gyda ‘Prosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig’ a chwarae rhan weithredol o ddiogelu ein hamgylchedd naturiol. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn warchod harddwch Eryri am genhedlaethau i ddod a chreu dyfodol gwell i bawb.

Diwedd.

Nodyn i Olygyddion

  1. Mae’r ymgyrch yn lansio ar y 24ain o Fehefin
  2. Mi fydd y pecyn cyfathrebu digidol a mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
  3. Sol Agency, Graded Films & FfotoNant oedd y tîm creadigol tu ôl y priosect.
  4. Y dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol oedd yn rhan o’r ymgyrch oedd Danny Grainger, Stacey Taylor, Tom Ryan & Hayley Roberts.
  5. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru