Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Taith Gerdded y Mis hwn (Ebrill 2023) yw Cwm Idwal ac fe'i dewiswyd gan Alan Pritchard, Warden Y Carneddau.
Mae Cwm Idwal yn un o'r ardaloedd mwyaf trawiadol yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol
Cwm Idwal is one of the most impressive areas of the National Park’s landscape. Crewyd y cwm gan rew filoedd o flynyddoedd yn ôl ac mae’n un o’r enghreiffitiau gorau o gwm rhewlifol yng Nghymru.
Ble
Cwm Idwal, Ogwen
Cyfarfod tu allan i Ganolfan Ogwen
Parcio ym Maes Parcio Canolfan Ogwen
Gweld Maes Parcio Canolfan Ogwen ar what3words
Gweld Maes Parcio Canolfan Ogwen ar Google Maps
Pryd
Gwener, Ebrill 14
Cyfarfod tu allan i Ganolfan Ogwen am 9:30am
Taith i gychwyn am 10:00am
Y Daith
Pellter: 3.5 milltir
Hyd: Dim mwy na 3 awr
Tywysydd y Daith
Alan Pritchard
Warden Y Carneddau, Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Warden y Mis: Cwm Idwal
Ymunwch ag Alan Pritchard, Warden Y Carneddau ar daith dywys o amgylch Cwm Idwal.