Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Nodweddion yr App

Mae gan App Parcio Eryri nifer o nodweddion i’ch helpu i barcio’n effeithlon yn y Parc Cenedlaethol.

Diweddariadau argaeledd parcio amser real
Diweddariadau argaeledd parcio amser-real ar feysydd parcio ger Yr Wyddfa ac ardaloedd poblogaidd eraill y Parc Cenedlaethol.
Dod o hyd i leoedd parcio sydd ar gael ger eich cyrchfan
Darganfod meysydd parcio cyfagos a chael gwybodaeth am gapasiti y maes parcio.
Llywio tro-wrth-dro i feysydd parcio
Gall yr app eich tywys â chyfarwyddiadau tro-wrth-dro i feysydd parcio yn Eryri.

Am yr App

Mae app Parcio Eryri yn eich cynorthwyo i ddarganfod lle parcio yng ngogledd Parc Cenedlaethol Eryri. Gan ddefnyddio data a synwyryddion amser-real, mae’r app yn eich tywys i’r lle parcio fwyaf cyfleus yn ardaloedd Yr Wyddfa, Ogwen a Betws y Coed.

I ddarganfod lle parcio, agorwch yr ap i arddangos y map. Bydd yr eiconau lliw (coch, gwyrdd ag oren) yn cyfeirio tuag at y nifer o lefydd parcio sydd ar gael.

Bydd tapio eicon ar y map yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am drefniadau parcio yn yr ardal honno gan gynnwys:

  • argaeledd presennol y maes parcio
  • oriau gweithredol
  • cyfyngiadau amser
  • ffioedd parcio

Gallwch hefyd ddefnyddio’r app i dderbyn cyfarwyddiadau tro-wrth-dro i’r maes parcio.

Lawrlwytho’r app

Mae’r app ar gael ar blatfformau Apple ac Android.

Lawrlwytho o’r App Store
Lawrlwytho o Google Play