Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Gwarchodwch arfordir Eryri—dilynwch y cod morol

Wrth ddilyn canllawiau’r Cod Morol, gallwn sicrhau fod tirwedd a bywyd gwyllt arfordirol Eryri yn cael eu gwarchod i’r dyfodol.

Y Cod

Mae’r Cod Morol yn amddiffyn fflora, ffawna a bywyd gwyllt morol. Bydd ymgyfarwyddo â’r cod yn eich galluogi i fwynhau bywyd gwyllt arfordirol Eryri yn ddiogel ac yn gyfrifol gan sicrhau ei fwynhad i bawb yn y dyfodol.

Cynllunio ymlaen llaw
Dylech osgoi ardaloedd bregus yn ogystal â chasgliadau mawr o adar neu forloi, boed hynny ar y lan neu ar y dŵr. Gwiriwch am unrhyw gyfyngiadau mynediad er enghraifft ardaloedd lle na chaniateir cŵn.
Cadwch eich pellter
Peidiwch â mynd yn agos at fywyd gwyllt megis morloi neu adar. Gall mynd yn rhy agos i fywyd gwyllt achosi straen i'r anifail.
Lleihau cyflymder a sain
Os ydych chi ar ddŵr, dylech geisio lleihau eich cyflymder a'ch sain. Bydd hyn yn lleihau aflonyddwch, yn enwedig o ran morfilod; gall synau uchel amharu ar forloi ac adar y môr.

Dolffiniaid, Llamhidyddion a Morloi

Mae ardaloedd arfordirol Eryri yn gartref i ddolffiniaid, llamhidyddion a morloi.

Os ydych ar gwch:

  • Arafwch yn raddol i’r cyflymder isaf
  • Peidiwch â gwneud newidiadau sydyn mewn cyflymder neu gwrs
  • Peidiwch â llywio’n uniongyrchol na bod o fewn 100m i’r anifeiliaid

Dylech osgoi:

  • Cyffwrdd, bwydo neu nofio gyda’r anifeiliaid
  • Byddwch yn hynod ofalus o darfu ar anifeiliaid ifanc
  • Peidiwch â mynd at forloi sy’n gorffwys ar y lan
  • Peidiwch â mynd i mewn i ogofâu môr yn ystod y tymor geni (1 Awst i 31 Hydref)
  • Peidiwch â thaflu sbwriel neu offer pysgota yn y môr
  • Ceisiwch osgoi gwneud unrhyw sŵn diangen ger yr anifeiliaid

Adar

  • Cadwch oddi wrth y clogwyni yn ystod y tymor magu (1af Mawrth – 31ain Gorffennaf)
  • Ceisiwch osgoi gwneud unrhyw sŵn diangen yn agos at glogwyni
  • Cadwch yn glir o grwpiau o adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar y lan neu’r môr