Gwarchodwch y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy deithio’n gynaliadwy yn Eryri.
O reilffyrdd ucheldirol i e-feiciau, mae llawer o ffyrdd unigryw o deithio o amgylch Eryri sy’n gallu ychwanegu at eich profiad o ymweld â’r Parc Cenedlaethol.
Yn ystod misoedd yr haf, gall ardaloedd fel yr Wyddfa ac Ogwen fod yn brysur iawn. Mae defnyddio gwasanaethau fel Sherpa’r Wyddfa yn helpu i amddiffyn y Parc Cenedlaethol a’i gymunedau lleol.
Cyrraedd Parc Cenedlaethol Eryri
O ogledd-orllewin Lloegr
Anelwch am yr A55 os yn teithio o ogledd-orllewin Lloegr. Dewch oddi ar y ffordd yng nghyffordd 19 gan ddilyn yr A470 i Lanrwst ac yna ymlaen i Betws y Coed. Os yn teithio ar drên, anelwch am orsaf drenau Crewe ac yna ymlaen i orsaf Cyffordd Llandudno. Gallwch ddefnyddio llinell Dyffryn Conwy i gyrraedd y Parc Cenedlaethol o orsaf Cyffordd Llandudno.
O dde Lloegr
Anelwch am Yr Amwythig a dilyn yr A5 o’r Amwythig i’r Parc Cenedlaethol. Os yn teithio ar drên, anelwch am orsaf Yr Amwythig. O’r man honno, defnyddiwch y linell drên Cambrian i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
O gyfeiriad Caergybi
Anelwch am yr A55 a dod oddi ar y ffordd yng nghyffordd 19. Dilynwch yr A470 drwy Lanrwst i Fetws y Coed. Os yn teithio ar drên, anelwch am orsaf drenau Cyffordd Llandudno o Gaergybi. Gallwch ddefnyddio llinell Dyffryn Conwy i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
O dde-orllewin Cymru
Anelwch am Aberystwyth a theithio ar hyd yr A487 i Fachynlleth. Wedi cyrraedd Machynlleth, gallwch barhau ar hyd yr A487 i gyfeiriad Dolgellau. Os am deithio ar hyd arfordir y Parc Cenedlaethol, trowch i’r chwith wedi gadael Machynlleth a theithio ar hyd yr A493 i gyfeiriad Aberdyfi. Os yn teithio ar drên, anelwch am orsaf drenau Aberystwyth a dal y linell drên Cambrian o’r orsaf honno.
O dde-ddwyrain Cymru
Anelwch am Lanfair-ym-Muallt a dilyn yr A470 nes cyrraedd ardal Llandinam. Pan yn cyrraedd ardal Llandinam, dilynwch yr arwyddion am Ddolgellau. Os yn teithio ar drên, anelwch am orsaf drenau Yr Amwythig. O’r man honno, defnyddiwch y linell drên Cambrian i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Mae gan Eryri rwydwaith beicio helaeth. Gallwch hefyd logi beic trydan (e-feic) gan un o’r cwmnïau llogi beiciau niferus o amgylch Eryri.
Mae rhagor o wybodaeth am gwmnïau llogi beiciau ar gael ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.
Mae llawer o feysydd parcio ar draws y Parc Cenedlaethol ond gallant fod yn brysur yn ystod misoedd yr haf rhwng Ebrill a Medi. Gallwch ystyried defnyddio gwasanaethau fel Sherpa’r Wyddfa os ydych yn bwriadu ymweld ag ardaloedd poblogaidd fel Yr Wyddfa.
Mae sawl pwynt gwefru ar gael ledled y Parc Cenedlaethol i wefru eich car trydan.
Mae gan Eryri rwydwaith bysiau helaeth, gan gynnwys bws Sherpa’r Wyddfa, sy’n ffordd wych o deithio o amgylch ardal yr Wyddfa, yn ogystal â gwasanaeth Traws Cymru T10 sy’n teithio i Ogwen.
Mae amserlenni bysiau ar gael ar wefan Traveline Cymru.
Mae Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth bws sy’n teithio o amgylch Yr Wyddfa. Dyma’r ffordd orau o ymweld ag un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.
Mae llinellau trên y Cambrian a Dyffryn Conwy yn ffyrdd gwych o gyrraedd ac theithio o amgylch y Parc Cenedlaethol. Yn ogystal, mae Rheilffordd Ucheldir Cymru a Rheilffordd Ffestiniog yn wasanaethau trên stêm godidog sy’n teithio o amgylch ardal ogledd-orllewinol y Parc Cenedlaethol.
Mae amserlenni trenau ar gyfer rheilffyrdd cyhoeddus ar gael ar Traveline Cymru.