Mae tirwedd amrywiol Eryri yn cynnig rhai o’r mannau pysgota mwyaf prydferth yng Nghymru. Yn cael ei ddisgrifio’n aml fel hafan ar gyfer pysgota, mae digonedd o gyfleoedd pysgota ar hyd a lled y Parc gan gynnwys llynnoedd, afonydd ac arfordir.
Un o’r mannau pysgota gorau yn Eryri o bosibl. Cronfa ddŵr fawr sy’n gartref i frithyllod amrywiol, draenogiaid, rhuban a phenhwyaid.
Mae Llyn Cwellyn, sydd wedi’i leoli i’r gorllewin o’r Wyddfa, gerllaw pentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert, yn gartref i frithyllod brown gwyllt a torgochiaid.
Wedi’i lleoli ger Dolgellau, mae’r Afon Fawddach yn lecyn gwych i frithyllod gwyllt, eogiaid a sewin.
Llyn naturiol mwyaf Cymru a llyn poblogaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr gan gynnwys pysgota. Mae Llyn Tegid yn gartref i ddraenogiaid, penhwyaid, brithyllod, penllwydion, llysywod ac eogiaid.
Llyn hudolus i’r gogledd o Rhyd Ddu. Mae brithyllod brown yn ogystal â brithyll seithliw yn y llyn.
Trwyddedau Pysgota
Os ydych yn bwriadu cymryd rhan mewn helwriaeth neu bysgota bras, rhaid i chi gael trwydded briodol. Gallwch brynu trwyddedau o siopau pysgota a physgodfeydd. Yn ogystal, rhaid i chi hefyd fod yn ddeiliad trwydded genedlaethol. Mae’r rhain ar werth mewn Swyddfeydd Post ac ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Trwyddedau Pysgota Llyn Tegid
Gallwch gael trwydded i bysgota ar Lyn Tegid gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cymdeithasau pysgodfeydd a genweirio
I gael rhagor o wybodaeth am bysgodfeydd a chymdeithasau genweirio yn Eryri, ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.
Pysgota yn Eryri (Gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr)