Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae gan Eryri ddigonedd o lwybrau a theithiau cerdded hawdd  gyda golygfeydd godidog heb orfod dringo mynydd! Dyma 5 o’n hoff lwybrau hygyrch yn Eryri os ydych yn chwilio am daith gerdded hamddenol heb fryniau.

Llwybr Afon, Llyn a Thref Y Bala

A view across Llyn Tegid

Hyd: 3.2 km
Amser: 1 Awr

Taith olygfaol sy’n cychwyn ar lannau Llyn Tegid, gan ymlwybro ar hyd glannau afon Dyfrdwy ac ymlaen drwy strydoedd Y Bala.

Taith ychydig dros 3km o grwydro’n hamddenol ar ddiwrnod gaeafol ac yn gorffen yn Y Bala sydd yn cynnig cyfleusterau delfrydol ar gyfer cinio neu swper. A

Mae’n daith delfrydol ar gyfer teuluoedd hefo pram neu defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae hefyd yn addas i’r rheini sydd yn defnyddio sgwteri tramper.

Llwybr Afon, Llyn a Thref Y Bala

Llwybr Foel Ispri

A member of the public using the tramper on the Foel Ispri route

Hyd: 0.3km
Amser: 0.25 Awr

Llwybr byr, hygyrch sydd yn cychwyn yn uchel ar y bryniau dros bentrefan Pen-y-Bryn, ger Dolgellau. Dyma’r olygfa orau o Aber Afon Mawddach yn y Parc Cenedlaethol. Trysor cudd sydd yn hygyrch ar gyfer pramaiau a defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Llwybr Foel Ispri

Llwybr Mawddach

Mawddach trail with Mawddach trail signpost

Hyd: 15km
Amser: 6 Awr

Ystyrir Llwybr Mawddach fel y llwybr mwyaf  hyblyg a hygrych yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r llwybr 9 milltir o hyd  yn dilyn glan ddeheuol aber y Fawddach ac yn cynnig golygfeydd godidog o’r aber yn ogystal â chynnig bywyd gwyllt a hanes. Mae’n lwybr perffaith i ddefnyddwyr cadeiraiu olwyn neu sgwteri tramper.

Llwybr Mawddach

Llwybr Dôl Idris

A member of the public using the Tramper on Dôl Idris route

Hyd: 1.25Km
Amser: 0.75 Awr

Dyma daith hygyrch sydd yn berffaith ar gyfer mynd am dro hamddenol sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. saif ar odre Cader Idris ac yn brolio 1.25km o lwybrau pardir hygyrch. Mae Dôl Idris yn le gwych i fwynhau a gwerthfawrogi llonyddwch natur.

Llwybr Dôl Idris

Lôn Gwyrfai

Part of Lôn Gwyrfai, a forest track leads into a forested area of the route.

Hyd: 7km
Amser: 3 Awr

Mae Lôn Gwyrfai yn llwybr hamdden aml-ddefnydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffyl. Mae’r llwybr llydan yn ymestyn 4½ milltir rhwng pentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert ac yn addas ar gyfer rhai cerbydau math tramper neu gadeiriau olwyn pŵer. Mae’n cynnig golygfeydd arbennig o Ddyffryn Gwyrfai a’r cyffiniau gan gynnwys golygfeydd godidog o’r Wyddfa.

Lôn Gwyrfai

Cyn i chi gychwyn

Mae archwilio Eryri yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf yn brofiad hyfryd, ond mae’n dal yn hanfodol i flaenoriaethu eich diogelwch. Yn aml gall llwybrau coetir fynd yn llithrig, felly mae gwisgo esgidiau cerdded cadarn gyda gafael da yn hanfodol i osgoi damweiniau.

Gall y tywydd fod yn anwadal hefyd, yn enwedig yn yr uchelfannau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo neu’n cario haenau ychwanegol ac edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn.

Dylech hefyd sicrhau eich bod yn gyfforddus gyda’r lefel ffitrwydd sydd ei angen ar gyfer y llwybr o’ch blaen a’i fod hefyd yn addas ar gyfer unrhyw un arall sy’n cerdded gyda chi ar y llwybr.

Gwybodaeth ar ddiogelwch
Gwybodaeth ar raddfeydd llwybrau
Gwefan Adventure Smart