Cyflwyno Cais Llogi Tramper
Y cam cyntaf wrth logi Tramper gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw cyflwyno cais llogi i’r Awdurdod. Bydd angen i chi ddarparu eich enw, e-bost, rhif ffôn, llwybr Tramper-gyfeillgar o’ch dewis a’r dyddiad yr hoffech chi logi’r Tramper.
Defnyddiwch y ffurflen i gyflwyno eich ceisiadau.
Cais yn cael ei Brosesu
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu. Yn ystod y cam hwn, bydd swyddog o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn sicrhau y gellir danfon y Tramper i fan cychwyn y llwybr o’ch dewisol ar y dyddiad a nodir yn eich cais.
Gall swyddog o’r Awdurdod hefyd gysylltu â chi i gael rhagor o fanylion am eich cais. Bydd y swyddogion yn defnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych yn y ffurflen i gysylltu â chi.
Cadarnhau’r Cais
Unwaith y bydd un o swyddogion yr Awdurdod wedi sicrhau bod trefniadau mewn lle i ddarparu’r Tramper yn unol â’ch cais, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus.
Bydd swyddog yn cysylltu â chi i gadarnhau manylion amseroedd cyfarfod a chasglu’r Tramper maes o law.