Lle o dreftadaeth ddiwylliannol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol

Mae nodweddion megis iaith, traddodiad a chelfyddyd yn rhan fawr o ffurfio hunaniaeth ac amgylchedd diwylliannol ardal neu le.

Y pethau hyn sy’n ffurfio treftadaeth ddiwylliannol Eryri—treftadaeth sydd yr un mor werthfawr â’r copaon creigiog a’r bywyd gwyllt amrywiol sydd yn galw’r Parc Cenedlaethol yn gartref.

Beth yw treftadaeth ddiwylliannol?

Pethau sy’n cael eu hetifeddu o genhedlaeth i genhedlaeth yw treftadaeth.

Mae treftadaeth ddiwydiannol yn cynnwys pethau lle mae modd eu gweld a’u cyffwrdd megis olion diwydiannol neu adeiladau hanesyddol.

Ond mae’r pethau sy’n cael eu hystyried fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol yn bethau anghyffyrddadwy—pethau lle does ond modd eu clywed neu eu profi.

Gall y rhain gynnwys traddodiadau ac arferion o fewn cymdeithas, iaith ac acenion ardaloedd, enwau lleoedd, llên gwerin, yn ogystal â chelfyddyd.

A Cader Idris yn sefyll ar hyd arwyddlun Parc Cenedlaethol Eryri
Yr Iaith Gymraeg
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan fawr o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri. Mae’r ardal yn gadarnle i’r iaith ac mae modd ei chlywed o ddydd i ddydd ar draws cymunedau’r Parc Cenedlaethol.
Yr Iaith Gymraeg
Welsh language lake names
Enwau Lleoedd
Mae llu o enwau lleoedd unigryw a diddorol ar draws Eryri. Gall yr enwau hyn ddatgelu cymaint am gyfoeth diwylliannol y Parc Cenedlaethol.
Enwau Lleoedd
Cerfddelw o Gelerr ym Meddgelert
Mytholeg a Llên Gwerin
Mae rhai o dirweddau amrywiol a llecynnau anghysbell Eryri wedi serennu mewn llu o lên gwerin a mytholeg hudol. Mae’r straeon a’r hanesion hyn yn rhan fawr o dreftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.
Darganfod Mytholeg a Llên Gwerin