Mae cyfleoedd beicio eang ym Mharc Cenedlaethol Eryri i feiciwyr o bob gallu.
Er fod Eryri’n adnabyddus am ei milltiroedd o lwybrau cerdded, mae gan y Parc Cenedlaethol ystod eang o gyfleoedd beicio yn ogystal.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i lwybrau coedwig troellog, ffyrdd â golygfeydd syfrdanol a theithiau hamdden i feicwyr o bob gallu.
![](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/01/NVW-C17-1314-0261.jpg)
![Cyclists on the Mawddach trail](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/01/Maddwch-Trail-1.jpg)
Mae Llwybr Mawddach yn lwybr aml-ddefnydd sy’n ymestyn rhwng Dolgellau ac Abermaw. Dyma lwybr poblogaidd gyda teuluoedd a cherddwyr o bob gallu.
![](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/01/LonGwyrfai-2.jpg)
Llwybr aml-ddefnydd yw Lôn Gwyrfai sy’n ymestyn rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert. Mae’r llwybr yn addas i feicwyr o bob gallu.
![Drone image of Coed y Brenin mountain bike trail](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/01/02Coed-y-Brenin.jpg)
Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf ym Mhrydain. Mae nifer eang o lwybrau beicio mynydd i gychwynwyr, teuluoedd a’r rhai profiadol.
![Lôn Gwyrfai which passes through Beddgelert Forest](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/03/shutterstock_1082148800.jpg)
Mae llwybrau beicio Bedwen a Derwen yng Nghoedwig Beddgelert yn lwybrau sy’n addas i feicwyr a theuluoedd sydd wedi arfer â beicio yn yr awyr agored. Mae Lôn Gwyrfai yn rhedeg wrth law.
![](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/03/shutterstock_1281250741.jpg)
Mae dau lwybr beicio mynydd anodd ym Mharc Coedwig Gwydir—Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Mae Parc Coedwig Gwydir yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.