Cylchdaith ucheldir Llanfairfechan

Mae’r llwybr yma yn dringo trwy rostir ac ucheldir agored, gan gynnig golygfeydd eang dros y Carneddau, Afon Menai ac arfordir Gogledd Cymru.

Ar hyd y ffordd, byddwch yn croesi tirwedd â hanes hir o ddefnydd dynol, gyda safleoedd ac olion archeolegol sy’n dyddio’n ôl i Oes y Cerrig.

Pam y llwybr hwn?

Os ydych chi’n chwilio am antur sydd ddim yn teimlo’n rhy heriol, mae’r gylchdaith hon yn ddewis gwych i chi. Mae’r daith yn mynd o bentref Llanfairfechan at odre mynyddoedd y Carneddau, drwy dirlun sy’n llawn nodweddion archeolegol yn dyddio o Oes y Cerrig.

 

Particularly great for: Natur, Ffotograffiaeth

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Map OS perthnasol: OS Explorer OL17

Dechrau / Diwedd: SH 698 736

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Teiryd

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

 

 

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

 

Darganfyddwch mwy o lwybrau yn Eryri