Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Un o ddau lwybr sy’n esgyn llethrau deheuol Cader Idris

Mae Llwybr Minffordd yn un o ddau lwybr sy’n dringo llethrau deheuol Cader Idris. Llwybr Llanfihangel y Pennant yw’r opsiwn arall. Llwybr Piliwn Pwn (Tŷ Nant) yw’r trydydd llwybr i’r copa. Mae’n esgyn llethrau gogleddol Cader Idris gan gychwyn o ardal Dolgellau.

Llwybr Minffordd yw un o’r llwybrau byrraf i fyny Cader Idris; er dyma’r llwybr sydd gan yr esgyniad fwyaf serth.

Pam y llwybr hwn?

Mae Llwybr Minffordd yn lwybr anodd/llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd i ddilyn y llwybr ac mae sgiliau llywio yn hanfodol.

Bydd y llwybr yn mynd â chi i Gwm Cau lle gorweddai Llyn Cau.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd.  Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau/Diwedd
Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116)

Map Perthnasol
OS Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu’r Map

Gallwch gyrraedd y daith hon ar fws. Mae gwasanaeth bws T2 yn teithio rhwng Aberystwyth a Bangor. Dylech ddefnyddio arhosfan ‘Minffordd, Gwesty i Gader Idris’ ar hyd y daith.

Gwasanaeth Bws T2

Os yn gyrru, cofiwch barcio mewn mannau parcio dynodedig a pheidiwch byth mewn ardaloedd lle rydych yn rhwystro mynedfeydd i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio: Dôl Idris

Gweld y maes parcio ar What 3 Words
Gweld y maes parcio ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Mytholeg a Llên Gwerin

Allan o holl gopaon Eryri, Cader Idris yn ddiamau yw’r mwyaf trwyth o fytholeg. Mae chwedlau di-rif yn gysylltiedig â’r copa cyfriniol hwn a’r llynnoedd cyfagos.

Dywedir yn aml fod enw Cader Idris, a gyfieithwyd fel Cadair Idris, yn deillio o gawr o’r enw Idris. Yn ôl y chwedl, defnyddiodd Idris y copa fel cadair i arolygu ei deyrnas. Mae damcaniaeth arall yn awgrymu bod y mynydd wedi’i enwi ar ôl Idris ap Gwyddno, tywysog Meirionnydd o’r 7fed ganrif.

Mae llawer o’r llynnoedd o amgylch Cader Idris i fod yn ddiwaelod, a dywedir, ar ôl treulio noson ar y copa, y byddai rhywun naill ai’n deffro’n fardd neu’n ‘wallgofddyn’.

Mae chwedloniaeth Cymru hefyd yn awgrymu mai Cader Idris oedd maes hela Gwyn ap Nudd a’i Gŵn Annwn. Yr oedd udo’r helgwn hwn yn rhagfynegi marwolaeth i bawb a’i clywai — yn gyrru eu henaid i’r isfyd.

Mytholeg a Llên Gwerin Eryri

Daeareg a Bioamrywiaeth

Ffurfiwyd Cader Idris o greigiau gwaddodol ac igneaidd o’r oes Ordofigaidd. Ffurfiwyd Llyn Cau, sydd ar waelod Cwm Cau, tebyg i grater, gan wydrydd peiran ar draws sawl oes iâ. Roedd maint y rhewlif hyd at gilometr sgwâr ar un adeg.

Mae llawer o’r ardal o amgylch Cader Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol ddynodedig – cartref i blanhigion Artig-alpaidd fel tormaen porffor a chorhelyg.

Daeareg Eryri

Cader Idris ar gynfas

Yn y 18fed ganrif, gwnaeth Richard Wilson, arlunydd o Fachynlleth, y daith gerdded i lan Llyn Cau wrth droed Cader Idris. Yma peintiodd yr hyn y gellir dadlau mai ei dirlun mwyaf adnabyddus.

Mae’n bwysig cofio mai dyma’r dyddiau cyn ffotograffiaeth, a phaentiad Wilson fyddai’r tro cyntaf i lawer weld tirwedd Eryri.

Llyn-y-Cau, Cader Idris (Tate Gallery)

Darganfyddwch lwybrau mynydd eraill