Mae nodweddion megis iaith, traddodiad a chelfyddyd yn rhan fawr o ffurfio hunaniaeth ac amgylchedd diwylliannol ardal neu le.
Y pethau hyn sy’n ffurfio treftadaeth ddiwylliannol Eryri—treftadaeth sydd yr un mor werthfawr â’r copaon creigiog a’r bywyd gwyllt amrywiol sydd yn galw’r Parc Cenedlaethol yn gartref.
Beth yw treftadaeth ddiwylliannol?
Pethau sy’n cael eu hetifeddu o genhedlaeth i genhedlaeth yw treftadaeth.
Mae treftadaeth ddiwydiannol yn cynnwys pethau lle mae modd eu gweld a’u cyffwrdd megis olion diwydiannol neu adeiladau hanesyddol.
Ond mae’r pethau sy’n cael eu hystyried fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol yn bethau anghyffyrddadwy—pethau lle does ond modd eu clywed neu eu profi.
Gall y rhain gynnwys traddodiadau ac arferion o fewn cymdeithas, iaith ac acenion ardaloedd, enwau lleoedd, llên gwerin, yn ogystal â chelfyddyd.