Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Taith gerdded hir ar hyd glannau deheuol llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid.

Mae’r daith hon yn arwain ar hyd bryniau glannau deheuol Llyn Tegid, gan gynnig golygfeydd trawiadol dros y cefn gwlad agored ac, wrth gwrs, Llyn Tegid ei hun.

Mae Llyn Tegid yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Fel llyn naturiol mwyaf Cymru, mae gweithgareddau fel padlfyrddio, caiacio a physgota yn rhesymau poblogaidd dros ymweld â’i lannau.

Mae’r llwybr yn gorffen yn nhref y Bala, sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol. Mae cyfoeth mawr o hanes a diwylliant yn gysylltiedig ag ardal y Bala.

Pam y llwybr hwn?

Tra bod De Llyn Tegid yn cael ei ystyried yn daith gerdded gymedrol, gallai ei hyd fod yn rhwystr i rai. Dros 7 milltir, mae angen lefel ffitrwydd da i gwblhau’r daith gerdded. Efallai y bydd cerddwyr newydd yn teimlo’n fwy cyfforddus ar deithiau cerdded byrrach yr ardal.

Daw’r llwybr i ben yn y Bala, gan wneud y dref yn lle perffaith ar gyfer lluniaeth ar ôl y daith gerdded yn un o’r nifer o gaffis a thafarndai. Ar ddiwrnodau poethach o haf, efallai mai trochi yn Llyn Tegid ei hun fyddai’r ffordd orau i oeri ar ôl y daith gerdded.

Particularly great for:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth  ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau
Y Gilfach Goffa, Llanuwchllyn

Gorffen
Maes parcio Parc Cenedlaethol ar Flaendraeth Llyn Tegid

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Mae trafnidiaeth cyhoeddus ar gael rhwng maes parcio’r blaendaeth a dechrau’r daith yn Llanuwchllyn.

Maes parcio Blaendraeth Llyn Tegid
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Ardal lle ganwyd mudiad ieuenctid cenedlaethol

Wrth i chi gyrraedd pen y daith, fe ddowch at bentref Llanuwchllyn. Yma saif cofeb i goffau tad a mab yn wreiddiol o’r pentref.

Syr O.M. Roedd Edwards yn olygydd, yn llenor ac yn addysgwr amlwg yn awyddus i annog balchder yn yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymreig.

Wedi’i ysbrydoli gan waith ei dad, sefydlodd Syr Ifan ab Owen Edwards y mudiad ieuenctid cenedlaethol ‘Urdd Gobaith Cymru’ yn 1922. Mae’r Urdd yn un o fudiadau ieuenctid mwyaf ac enwocaf Cymru. Mae’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2022, dathlodd yr Urdd ei chanmlwyddiant gydag aelodaeth o dros 55,000 o bobl ifanc.

Lleolir un o ganolfannau preswyl yr Urdd, Glanllyn, ar lan ogleddol Llyn Tegid.

Safle ffordd Rufeinig

Ar ôl gadael pentref Llanuwchllyn ac esgyn ar hyd y llwybr cyhoeddus, fe ddowch ar draws fferm o’r enw Llechweddystrad (llethr y ffordd Rufeinig). Mae’r enw’n awgrymu bod ffordd Rufeinig yn arfer mynd trwy’r safle hwn. Yr ochr arall i’r dyffryn mae safle hen gaer Rufeinig, Caer Gai, a saif ar hen groesffordd. Roedd y ffordd fawr o’r dwyrain yn rhedeg o gyfeiriad Caer i gyfeiriad Brithdir ger Dolgellau, a’r ffordd arall yn cysylltu Caer Gai â Thomen y Mur yn y gogledd a Chaersws yn y de.

Rheilffordd Llyn Tegid

Ar hyd glan ddeheuol Llyn Tegid mae Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg. Mae gan y rheilffordd gul hon sy’n rhedeg rhwng y Bala a Llanuwchllyn sawl arhosfan ar ei hyd 9 milltir. Rhed y rheilffordd dros ran o hen Reilffordd y Great Western rhwng Rhiwabon a Morfa Mawddach ger Abermaw.

Llwybrau eraill yn yr ardal