Taith hamddenol uwchben bryniau gogleddol Y Bala
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn creu delweddau o olygfeydd mynyddig creigiog, ond bydd y daith gerdded hon yn dangos yr agwedd dyner a gwyrddach o Eryri.
Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy’r Bala, sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol. Mae cyfoeth mawr o hanes a diwylliant yn gysylltiedig ag ardal y Bala.
Pam y llwybr hwn?
Mae Craig y Fron yn daith gerdded weddol hawdd, sy’n golygu dringfa gyson o’r cychwyn cyntaf, yna lefelu i ddisgyn yn raddol ar draws tir pori. Mae’n cynnig golygfeydd o dref Y Bala, hen chwarel, a chadwyni o fynyddoedd cyfagos.
Gan fod y llwybr mor agos i’r Bala, mae’n gwneud y dref yn lle perffaith ar gyfer lluniaeth ar ôl y daith gerdded yn un o’r nifer o gaffis a thafarndai. Neu, ar ddiwrnod poeth o haf, efallai mai trochi yn Llyn Tegid fyddai’r ffordd orau i oeri ar ôl yr heic.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hamddenol. Mae’n addas ar gyfer pobl â lefel rhesymol/cymedrol o ffitrwydd. Gall y tir gynnwys llwybrau gwledig heb wyneb a thir bryniog. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad dal dŵr.
Dechrau/Diwedd
Maes parcio blaendraeth Llyn Tegid oddi ar yr A494
Map perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio blaendraeth Llyn Tegid, Y Bala
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Y Bala
Mae’r Bala yn hen dref farchnad a dderbyniodd ei siarter ym 1324. Mae Tomen (Twmpath) y dref, safle mwnt a beili Normanaidd, yn cyfeirio at anheddiad cynharach oherwydd ei safle ar flaen yr Afon Dyfrdwy.
Yn y 19eg ganrif, daeth Y Bala yn ganolbwynt y diwygiad crefyddol yng Ngogledd Cymru. Arweiniwyd hi gan y Methodist, y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), sylfaenydd y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor.
Sefydlodd Thomas Charles y gymdeithas Feiblaidd ar ôl cael ei ysbrydoli gan stori Mari Jones. Merch ifanc oedd Mari a gerddodd 25 milltir yn droednoeth i’r Bala yn 1800, o’i genedigol yn Llanfihangel-y-Pennant i gael Beibl Cymraeg gan Thomas Charles ei hun.
Parhaodd y traddodiad crefyddol cryf i ddylanwadu ar y dref. Adeiladwyd Coleg y Bala, y Coleg Ddiwinyddol Presbyteraidd, yn y 1860au gan ddefnyddio cerrig o chwarel Craig y Fron gerllaw.
Mae delwau niferus y dref hefyd yn gofeb i’r arweinwyr gwleidyddol a godwyd yma. Heddiw, mae ardal Y Bala yn parhau i fod yn sylfaen i draddodiad diwylliannol Cymru. Mae ganddi un o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg o fewn y Parc Cenedlaethol.