Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae e-feiciau yn fwy poblogaidd nawr nac erioed o’r blaen ac yn feiciau sydd yn cael eu cymhorthi gan fodur, mae’n rhaid pedalu’r rhan fwyaf i’r modur weithio. Maent hefyd yn cael eu caniatau ar unrhyw lwybr yn yr un modd a beiciau cyffredin ar lwybrau march, lonydd beicio neu’r ffyrdd.

Fodd bynnag, mae rhai rheolau ar gyfer eu defnyddio.

  • Mae’n rhaid i ddefnyddwyr fod o leiaf 14 mlwydd oed.
  • Dylai’r modur fod o dan 250W
  • Ni ddylai’r modur wthio’r beiciwr dros 15.5mya (cyflymder mwyaf) – ni ddylai’r modur allu cymhorthi’r beiciwr yn uwch na’r cyflymder yna.
  • Fel beicio cyffredin, mae’n gyfraith i ildio i gerddwyr a marchogwyr.