Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

O dirweddau sy’n llawn chwedloniaeth a llên gwerin i fynyddoedd garw a golygfeydd hardd, mae gan Wynedd ac Eryri lwybrau sy’n ysu am gael eu cerdded. Felly p’un a ydych chi ar wyliau anturus, wedi dianc am y penwythnos, neu’n treulio gwyliau gartref iachus gyda’r ci — gogledd Cymru yw’r lle perffaith i’r teulu cyfan ymgolli ym myd natur, a darganfod yr hud sydd gan yr ardal hon i’w gynnig.

Cader Idris

Lleoliad: Tŷ Nant, dafliad carreg o dref Dolgellau.

Pellter: amrywiol (9 – 16km).

Uchafbwyntiau: Mae chwedlau di-ri yn gysylltiedig â’r copa cyfriniol hwn a’r llynnoedd cyfagos. Dywedir bod y copa wedi’i enwi ar ôl cawr chwedlonol o’r enw Idris a arferai ddefnyddio’r mynydd fel cadair enfawr!
Mae’r mynydd serth hefyd wedi’i amgylchynu gan lynnoedd hudolus, sydd, yn ôl y chwedlau, yn ddiwaelod — gan gynnig llwybr heriol ac antur sy’n llawn harddwch i gerddwyr.

Dyma un o gopaon mwyaf adnabyddus Eryri. Mae’n 2,930 troedfedd o uchder, gyda thri llwybr yn arwain i’r copa: Llwybr Minffordd, Llanfihangel-y-pennant a Llwybr Tŷ Nant (Pilin Pwn) — pob un ohonynt yn amrywio o ran pellter a pha mor anodd ydynt.

Cofiwch: Peidiwch â gadael unrhyw olion ar ôl wrth ymweld â’r copa chwedlonol hwn a’i lynnoedd, er mwyn sicrhau bod yr egni hudol yn parhau ar gyfer yr ymwelwyr sydd i ddod. Am arweiniad ar ble i fynd â’ch sbwriel ar ôl mwynhau picnic neu hoe fach, darllenwch y Cod Cefn Gwlad.

Harlech i Ddyffryn Ardudwy

Lleoliad: Harlech

Pellter: 19km

Uchafbwyntiau: Mae gan Eryri dros 70 milltir o arfordir trawiadol — gan roi digonedd o ddewis i deuluoedd o ran ei thirwedd ddramatig ac amrywiol. Efallai mai un o dirnodau mwyaf nodedig y daith gerddded hon yw castell godidog Harlech — un o gaerau Edward I. Yn fwy na hynny, mae’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, gan osod y cefndir ar gyfer yr antur deuluol berffaith.

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru hefyd yn cynnwys rhai o’r systemau twyni pwysicaf ym Mhrydain, ac mae’n gartref i ystod amrywiol o blanhigion — sy’n golygu ei bod wedi’i gwarchod fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Hefyd, cadwch eich llygaid ar agor am ‘Yr Eglwys yn y Tywod’ — eglwys ganoloesol o’r bumed ganrif, y mae rhywfaint ohoni’n dal i’w gweld heddiw, ochr yn ochr â chorff yr eglwys ganoloesol hudolus o’r drydedd ganrif ar ddeg.

Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan

Lleoliad: Beddgelert

Pellter: 10km

Uchafbwyntiau: Mae’r gylchdaith hon yn cychwyn ym mhentref bach Beddgelert ac yn dilyn Afon Glaslyn, trwy Gwm Bychan, cyn disgyn tuag at Lyn Dinas.

Mae’r daith gerdded yn gymysgedd perffaith o antur, llonyddwch a gwir flas o’r awyr agored. Mae’r llwybr, gyda’i fryniau serth, yn mynd â theuluoedd drwy rai o ardaloedd mwyaf prydferth y Parc Cenedlaethol — gan gynnwys Bwlch Aberglaslyn, sy’n geunant cul eithriadol o hardd.

Ond cofiwch, dylai diogelwch fod yn hollbwysig ar unrhyw antur gerdded — felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros ar y trywydd iawn trwy ddilyn yr arwyddion a chadw at y llwybr dynodedig. Cewch wybod rhagor yma.

 

Llwybr Clywedog

Lleoliad: Ar gyrion Dolgellau

Pellter: 4km

Uchafbwyntiau: Mae’r gylchdaith fyrrach hon, ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cynnwys cyfoeth o fywyd gwyllt — gan gynnwys dyfrgwn, pathewod ac ystlumod pedol lleiaf. Mae’r llwybr yn arwain cerddwyr o dan ganopi coetir ar hyd Afon Clywedog — gan fynd heibio olion diwydiannol cudd melinau gwlân a ffwrneisi haearn, a fu unwaith yn fwrlwm o weithgarwch diwydiannol.

A hithau’n gymedrol anodd, mae’r daith hon yn berffaith ar gyfer teuluoedd sydd am archwilio Eryri heb orfod heicio na dringo. Gyda mannau parcio dynodedig gerllaw, dyma’r antur ddelfrydol ar gyfer y bore neu’r prynhawn.

 

Cylchdaith Rhosgadfan

Lleoliad: Caernarfon

Pellter: 9.5km

Uchafbwyntiau: A hithau’n berffaith ar gyfer heicio, rhedeg neu gerdded, mae’r gylchdaith hon ger Caernarfon yn wych ar gyfer teuluoedd sydd am gael seibiant o’r dref hanesyddol brysur — neu sydd am ddarganfod Gwynedd o safbwynt gwahanol.

Gyda sawl golygfan wych ar gyfer y llun teuluol perffaith, mae’r llwybr hwn yn mynd heibio sawl chwarel hanesyddol — gyda blynyddoedd o hanes diwydiannol. Gyda digonedd o fywyd gwyllt a phlanhigion drwy gydol y flwyddyn, mae hwn yn fan gwych ar gyfer gweithgareddau adnabod rhywogaethau.

Felly, p’un a ydych chi’n crwydro trwy goetiroedd hynafol, yn dod o hyd i safleoedd hanesyddol neu’n syllu ar gopaon trawiadol sy’n frith o chwedlau cyfriniol — cofiwch baratoi’n drylwyr ar gyfer eich antur nesaf yng Ngwynedd ac Eryri. P’un a yw hynny’n golygu gwirio rhagolygon y tywydd ymlaen llaw; sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau bwyd a diod, neu gynllunio eich taith; i sicrhau ymweliad hapus a chofiadwy!