Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr hir trwy geunentydd arallfydol ac eangderau  yn llawn hanes diwydiannol

Mae’r daith gylchol hon yn cychwyn ym mhentref prydferth Beddgelert ac yn dilyn yr afon Glaslyn, gan ddringo i fyny trwy Gwm Bychan cyn disgyn i Lyn Dinas.

Pam y llwybr hwn?

Dyma lwybr heriol oherwydd ei bellter, ei esgynfeydd ac ar brydiau, ei dirwedd anwastad. Gall teithiau cerdded cymedrol byrrach fod yn addas i rai cerddwyr.

Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy rai o ardaloedd mwyaf prydferth y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys bwlch Aberglaslyn ac ehangder Cwm Bychan.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd.  Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Beddgelert

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans  Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Beddgelert
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gweld ar What3Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Bedd Gelert

Mae Beddgelert yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd a hardd y Parc Cenedlaethol. Ysbrydolwyd gan chwedl Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr. Mae Llywelyn yn un o dywysogion enwocaf Cymru.

Yn ôl y chwedl, cychwynnodd Llywelyn ar daith hela un diwrnod, gan adael ei fab yn cysgu’n dawel yn ei grud a Gelert, ei gi ffyddlon, i wylio drosto.

Tra’r oedd Llywelyn allan, prowliodd blaidd i grud y babi. Neidiodd Gelert tuag at y blaidd, a bu brwydr ffyrnig a gwaedlyd rhwng yr anifeiliaid. Fodd bynnag, cafodd Gelert y gorau ar y blaidd yn y pen draw, gan gadw mab Llywelyn yn ddiogel.

Dychwelodd Llywelyn yn fuan a chafodd sioc o weld yr olygfa o’i flaen. Gwelodd grud ei fab wedi’i ddymchwel a gwaed ar ei hyd tra roedd Gelert yn gorwedd wrth ymyl, wedi’i anafu o’r frwydr. Tynnodd Llywelyn ei gleddyf a lladd ei gi ffyddlon.

Wedi munud o dawelwch, yn sydyn clywodd Llywelyn swn crio yn dod o grud ei fab. Rhuthrodd drosodd a gwelodd ei blentyn yn fyw ac yn iach, a’r blaidd marw yn gorwedd wrth ei ochr.

Torrodd Llywelyn ei galon wrth iddo sylweddoli beth oedd wedi ei wneud.

Rheilffordd Ucheldir Cymru

Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n rhedeg am 25 milltir rhwng Caernarfon a Phorthmadog, yn dilyn rhan gyntaf llwybr y Pysgotwr. Agorwyd y rheilffordd am y tro cyntaf ym 1922. Fodd bynnag, roedd dirywiad y diwydiant llechi a’r cynnydd mewn bysiau modur yn golygu bod y galw am y rheilffordd yn lleihau. Caeodd yn 1936.

Erbyn hyn, mae’r rheilffordd yn gweithredu fel rheilffordd dreftadaeth, ac mae’r daith drwy fwlch Aberglaslyn yn un o rannau mwyaf poblogaidd ei thaith.

Cloddio am gopr

Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy Gwm Bychan, heibio i weddillion hen fwyngloddiau copr. Roedd copr yn cael ei gloddio a’i gludo i lawr y dyffryn gan ddefnyddio system car cebl. Byddai’r mwyn wedyn yn cael ei gludo i Borthmadog ar geffyl a chert ac yna’n cael ei gludo i Abertawe i’w brosesu.

Wedi dychwelyd i Feddgelert, byddwch yn mynd heibio Mwynglawdd Copr Sygun, sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Fe gaewyd yn 1903 ond cafodd ei adfer yn gynnar yn yr 1980au cyn agor i’r cyhoedd yn 1986.

Darganfyddwch lwybrau eraill