Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

O feicio, bysiau a threnau, mae llawer o ffyrdd o gyrraedd a theithio o gwmpas Eryri heb gar.

Train arriving at Betws y Coed station.

Cyrraedd Eryri heb gar

Mae gan Eryri gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych. I’r gogledd, gorsafoedd trên Bangor a Llandudno yw’r ffyrdd gorau o gyrraedd. Mae gan y ddwy orsaf gysylltiadau uniongyrchol â dinasoedd mawr fel Manceinion a Llundain. I’r de, mae gan orsaf Cyffordd Dyfi gysylltiad uniongyrchol â rheilffordd y Cambrian—un o linellau trên mwyaf prydferth Cymru. Gellir cyrraedd Cyffordd Dyfi o orsaf Amwythig.

Os hoffech ymweld ag ardal Betws y Coed, gallwch gymryd gwasanaeth uniongyrchol o Gyffordd Llandudno i orsaf drenau Betws y Coed. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Dolgellau, Y Bala neu Aberdyfi, Machynlleth yw’r lle gorau i ddechrau. Gellir cyrraedd y dref fechan hon ar drên o’r Amwythig. Dim ond taith fer 30 munud ar y bws o Fachynlleth yw Dolgellau ei hun. Mae cyswllt bws i’r Bala o Ddolgellau. Mae Aberdyfi ychydig o arosfannau trên i ffwrdd o Fachynlleth.

Os ydych am ymweld ag ardal Yr Wyddfa, mae gan Fangor y cysylltiadau bws gorau gan gynnwys gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Bydd y gwasanaeth yn mynd â chi i unrhyw un o’r chwe llwybr i’r copa o ardaloedd fel Betws y Coed, Caernarfon, Porthmadog, Llanberis a Bangor.

Cyrraedd Yr Wyddfa

Cyclists on the Mawddach Trail

Teithio o amgylch Eryri heb gar

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd, mae cyfoeth o opsiynau trafnidiaeth ar gael. Mae rheilffordd y Cambrian yn rhedeg ar hyd arfordir gorllewinol y Parc Cenedlaethol o orsaf Cyffordd Dyfi cyn belled â Phwllheli ym Mhen Llŷn. Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn rhedeg o Landudno i Flaenau Ffestiniog gan alw ym Metws y Coed ar hyd y ffordd.

Rheilffordd Cambrian (Gwefan Croeso Cymru)
Gwefan Rheilffordd Dyffryn Conwy

Mae gan Eryri hefyd gyfoeth o opsiynau rheilffordd treftadaeth. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru yn reilffordd prydferth sy’n rhedeg o Gaernarfon, heibio i odre gorllewinol Yr Wyddfa, trwy bentref Beddgelert cyn cyrraedd Porthmadog. O Borthmadog, gallwch gymryd Rheilffordd Ffestiniog i gyrraedd Blaenau Ffestiniog.

Gwefan Rheilffordd Ucheldir Cymru a Ffestiniog

Mae hefyd nifer o rheilffyrdd treftadaeth bychan gan gynnwys Rheilffordd Talyllyn sy’n rhedeg rhwng Tywyn a Dysynni, yn ogystal â Rheilffordd Llyn Padarn a Rheilffordd Llyn Tegid.

Ffordd boblogaidd arall o deithio o amgylch y Parc Cenedlaethol yw ar ddwy olwyn. Mae beicio yn weithgaredd poblogaidd yn Eryri ac mae e-feiciau yn dod yn fwyfwy hygyrch, sy’n newyddion da i’r rhai nad ydyn nhw’n awyddus i fynd i’r afael â bryniau serth Eryri heb gymorth modur trydan!

Beicio yn Eryri

Mae cludiant cyhoeddus yn opsiwn arall ar gyfer teithio o amgylch Eryri. Mae bysiau lleol yn rhedeg ledled y parc, gyda amrywiaeth o wasanaethau yn cysylltu’r prif drefi a phentrefi. Mae Sherpa’r Wyddfa yn wasanaeth bws poblogaidd sy’n teithio o amgylch gwaelod Yr Wyddfa, gan alw gerllaw pob llwybr i’r copa. Yn Nyffryn Conwy, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth bws fflecsi newydd sy’n mynd â chi i wahanol leoliadau ar draws y dyffryn.

Gwasanaeth Bws Fflecsi

Llety

Mae digonedd o opsiynau llety yn Eryri ar gyfer teithwyr heb gar. Mae hosteli a meysydd gwersylla ar gael yn ogystal â gwestai a thai llety, sy’n cynnig mwy o amwynderau. Wrth ddewis llety, ystyriwch eich mynediad at gludiant cyhoeddus. Gallwch gynllunio’r rhan fwyaf o’ch teithiau trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddefnyddio gwefan Traveline Cymru.

Traveline Cymru
Llety yn Eryri (Gwefna Eryri Mynyddoedd a Môr)

Gall ymweld ag Eryri heb gar fod yn brofiad gwerth chweil. Nid yn unig y mae’n lleihau eich ôl-troed carbon, ond mae hefyd yn caniatáu ichi brofi’r parc yn arafach a phrofi’r amgylchedd naturiol mewn ffordd wahanol. Gydag ychydig o gynllunio a hyblygrwydd, heb os, gallwch gael taith gofiadwy heb gar i Eryri.