Y ffordd orau o brofi’r hyn sy’n gwneud Eryri mor arbennig yw archwilio’r milltiroedd o lwybrau a theithiau cerdded ar draws y dirwedd.

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol 1,497 milltir o lwybrau sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i chi ymgolli’n llwyr yn rhai o rinweddau unigryw Eryri.

Mae llawer o fanteision eraill i gerdded yn Eryri, gan gynnwys gwella ein hiechyd a lles corfforol a meddyliol.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau o lwybrau cyn dechrau ar eich taith trwy ddarllen gwybodaeth am Raddfeydd Llwybrau.

Hidlo canlyniadau
Lleoliad
Gradd
Amser
Amgylchoedd
Math o lwybr
Rhinweddau arbennig
Llwybrau hygyrch
Craig y Ddinas
Craig y Ddinas
Cymedrol
Yno ac yn ôl 7 km 1.5 awr
Taith gerdded gymedrol i fryngaer o’r oes haearn yng nghanol Ardudwy.
Rhaeadr Arthog a Llynnau Cregennan
Rhaeadr Arthog a Llynnau Cregennan
Cymedrol
Cylchdaith 13.7 km 4 awr
Llwybr cymedrol drwy goetiroedd hynafol, heibio llynnoedd trawiadol ac ar hyd Aber Mawddach.
Map