Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr cymedrol drwy goetiroedd hynafol, heibio llynnoedd trawiadol ac ar hyd Aber Mawddach.

Cymuned fechan yw Arthog sydd yn sefyll ar fryniau deheuol yr Afon Mawddach. Mae’r Fawddach yn un o ardaloedd mwyaf trawiadol y Parc Cenedlaethol—aber eang a thywodlyd sy’n ymwestyn o Ddolgellau i Abermaw.

Pam y llwybr hwn?

Yr amrywiaeth o dirweddau a chynefinoedd sy’n diffinio’r llwybr hwn. Dim ond ar lannau arfordirol fel y Mawddach y gallwch brofi coedwigoedd llydanddail hynafol fel Coed Abergwynant—cartref i gyfuniad unigryw o rywogaethau. Mae llynoedd Cregennan yn rhai o lynoedd mwyaf heddychlon y Parc Cenedlaethol ac mae’r Fawddach yn un o ardaloedd mwyaf godidog Eryri.

Dyma lwybr sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am daith gymedrol drwy dirweddau amrywiol.

Llwybr gwych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth  ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Gorffen
Maes Parcio Arthog ger Llwybr Mawddach

Map Perthnasol
OS Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Arthog ger Llwybr Mawddach

Gweld ar what3words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cyngor ar Ddiogelwch
Cod Cefn Gwlad

Cartref i freindal y 12fed ganrif

Ar ddechrau’r daith, byddwch yn croesi pont garreg. Filoedd lawer o flynyddeodd yn ôl, safai Llys Bradwen yma. Roedd y llys hynafol hwn yn gartref i Ednywain ab Bradwen, arweinydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn ystod y 12fed ganrif, pan fu’r Tywysog Gruffydd ab Cynan yn teyrnasu.

Adeiladwyd y llys o bridd a cherrig, ac roedd dwy ran iddi—un yn lety a’r llall yn lys cyfreithiol. Roedd dwy garreg fawr yn nodi mynedfa’r llys, ond yn anffodus cawsant eu dinistrio yn ystod hanner olaf y 19eg ganrif. Yn ôl llên gwerin lleol, arferai’r hen bregethwr Lewis Morris bwyso ar un o’r clogfeini hyn wrth bregethu’r efengyl i’r bobl leol yn 1806.

Hanes a Threftadaeth Eryri

Llynnau Cregennan a Chader Idris

Mae’r enw ‘Cregennan’ (neu ‘Cregennen’) yn tarddu o ‘crog-gangen’. Mae’r enw’n adlewyrchiad o hanes anffodus yr ardal ble yn ystod y 12fed ganrif, byddai troseddwyr euog a fyddai’n cael eu herlyn yn Llys Bradwen yn cael eu crogi o gangen coeden dderw cyfagos.

Erbyn heddiw, llynnau heddychlon a thrawiadol yw Cregennen sy’n cael eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n ardal boblogaidd ar gyfer pysgota brithyll.

Wrth i chi syllu draw dros ddyfroedd tawel y llynnau, mae’n bosib i gwelwch gip o Cader Idris yn y pellter. Yn ôl llên gwerin, mae Cader Idris wedi ei enwi ar ôl cawr o’r enw Idris a oedd yn byw ar y mynydd. Sî poblogaidd arall am Gader Idris yw, os y treuliwch noson gyfan ar y copa, byddwch unai’n deffro’n fardd neu’n ddyn wedi mynd ‘o’i go’.

Darganfod Llynoedd ac Afonydd Eryri
Darganfod Ucheldir Eryri

Coed Abergwynant

Coedlan dderw brodol oedd Abergwynwant yn wreiddiol ond, yn anffodus, cafwyd wared ag oddeutu 80% o’r coed hŷn yn ystod y 1960au. Y bwriad oedd i’w hamnewid â choed conifer bythwyrdd a arweiniodd at ddirywiad yng nghyflwr y goedlan. Erbyn yr 1990au, roedd Coed Abergwynant dan fygythiad o bla Rhododendron ponticum, llwyn ymledol sy’n gwasgaru’n gyflym gan atal goleuni haul i gyrraedd planhigion brodol eraill.

Ym 1996, fe brynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol damaid sylweddol o’r goedlan gyda chymorth grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Ers hynny, mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithio i adfer y goedlan gan ddymchwel coed conifer a phlannu coed derw a bedw brodol, yn ogystal â rheoli ymlediad Rhododendron ponticum.

Darganfod Coedwigoedd Eryri

Llwybrau eraill yn yr ardal