Taith gerdded gymedrol i fryngaer o’r oes haearn yng nghanol Ardudwy
Mae Craig y Ddinas yn fryngaer o’r oes haearn sydd wedi’i lleoli ar graig anghysbell, 350m uwch lefel y môr. Saif y fryngaer mewn lleoliad dramatig gyda golygfeydd gwych o ardal Ardudwy.
Mae Craig y Ddinas yn dal i gadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Mae mynedfa drawiadol ar yr ochr ddwyreiniol. Mae olion o’r oes haearn a thai crwn Rhufeinig hefyd i’w gweld ar y safle.
Mae’n bosib bod y fryngaer ei hun wedi’i defnyddio fel lloches neu fel man cyfarfod cymunedol. Mae’n debyg i’r tai crynion gael eu defnyddio fel aneddiadau.
Pam y llwybr hwn?
Mae Craig y Ddinas yn ddewis perffaith i’r rhai sydd â diddordeb yn rhai o safleoedd hanesyddol ac archeolegol llai adnabyddus y Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, fel llwybr cymedrol, 4 milltir o hyd, efallai na fydd yn addas ar gyfer cerddwyr dibrofiad.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel resymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth neu heb wyneb yng nghefn gwlad agored. Mae esgidiau cerdded a haenau dal dŵr yn hanfodol.
Dechrau/Diwedd
Maes Parcio ger Neuadd Cors y Gedol (SH 602231)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a’r Bala)
Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio preifat ger Neuadd Cors y Gedol
angen tal o £1
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Bryngaerau Eryri
Efallai mai bryngaerau fel Craig y Ddinas yw rhai o’r safleoedd archeolegol mwyaf trawiadol yn Eryri. Fodd bynnag, maent yn anodd eu deall. Maent i’w cael mewn amrywiaeth ddryslyd o siapiau a meintiau, a allai adlewyrchu eu bod wedi’u hadeiladu at wahanol ddibenion. Nid oedd y bryngaerau i gyd yn amddiffynnol. Gall rhai fodoli at ddibenion defodol neu grefyddol, tra bod eraill yn amlwg wedi’u hadeiladu i fod yn drawiadol yn hytrach nag yn ymarferol.
Ychydig iawn o’r deg ar hugain neu fwy o gaerau yn Eryri sydd wedi’u harchwilio ar raddfa ddigon mawr i’w deall. Mae’r ymdrech a’r gost i’w cloddio yn golygu nad yw’r sefyllfa hon yn debygol o newid.
Ardudwy
Lleolir Craig y Ddinas yn ardal Ardudwy. Mae Ardudwy i’w weld yn aml ym mytholeg Cymru. Harlech oedd y safle lle mae Bendigeidfran, y cawr eiconig o’r Mabinogi, yn dal llys yn Ail Gainc y Mabinogi. Yn y Bedwaredd Gainc mae Math fab Mathonwy yn rhoi ardaloedd Eifionydd ac Arduwy i Lleu Llaw Gyffes. Yn ddiweddarach mae Lleu yn adeiladu ei balas, Mur y Castell, yn Ardudwy.