Mae’r hydref yn un o dymhorau mwyaf hudolus Eryri ac mae ei arlliwiau euraidd a’i awyr iach yn cynnig y cyfle perffaith i grwydro rhai o deithiau cerdded mwy heddychlon a hamddenol y Parc Cenedlaethol.

Mae’n debygol y bydd copaon Eryri yn rhy beryglus i’w mentro o dan amodau gaeafol, yn enwedig os nad oes gennych y wybodaeth arbenigol am heicio yn ystod y gaeaf. Ond, diolch byth, does dim prinder o leoedd hydrefol delfrydol i’w mwynhau yn Eryri.

A view over the Mawddach Estuary with Abergwynant Woods in the distance

Coed Abergwynant

Graddfa: Cymedrol
Pellter: 6km
Hyd: 2 awr

Yn swatio rhwng Dolgellau a’r Bermo, mae Coed Abergwynant yn goetir 90 erw ar lan ddeheuol Aber y Fawddach. Mae Afon Gwynant, sy’n cychwyn wrth droed mynydd mawreddog Cader Idris, yn ymdroelli trwy’r coetir lle mae brodwaith cyfoethog o fwsoglau, cennau a rhywogaethau coetir fel ffyngau, brogaod a madfallod yn ffynnu. Mae coed brodorol fel derw, bedw, a chelyn yn ffynnu yma hefyd.

Mae Abergwynant yn cynnig awyrgylch tawel a myfyriol lle gallwch fwynhau taith gerdded feddyglar, ond eto mae’r llwybrau troellog a’i naws ‘heb ei ddarganfod’ yn ei wneud yn berffaith ar gyfer teuloedd.

Coed Abergwynant

Walkers on a woodland boardwalk in Betws y Coed.

Pontydd Betws-y-coed

Graddfa: Hawdd
Pellter: 3.6km
Hyd: 3/4 awr

Mae Betws-y-coed yn un o bentrefi mwyaf hynod y Parc Cenedlaethol. Fe’i amgylchynir gan goetir sy’n gwneud yr hydref yn y pentref hwn yn brofiad rhyfeddol. Mae taith gerdded Pontydd Betws-y-coed yn daith hamddenol drwy’r pentref yn ogystal â rhywfaint o’r coetir o’i amgylch. Wrth i chi grwydro ar hyd y llwybr, byddwch yn croesi sawl pont gan groesi’r Afon Llugwy mewn coetir trwchus a mawreddog.

Fel taith hamddenol mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd ac mae agosrwydd y pentref yn cynnig lle delfrydol i aros am ddiod neu bryd o fwyd ar ôl eich taith gerdded.

Pontydd Betws-y-coed

Torrent Walk path leads up the gorge into the distance

Llwybr Clywedog

Graddaf: Cymedrol
Pellter: 4km
Hyd: 1 awr

Wedi’i lleoli ar gyrion Dolgellau, mae Llwybr Clywedog yn lwybr a ffafrir yn yr ardal hon. Yma, byddwch yn troedio o dan ganopi coediog toreithiog, gan olrhain cwrs Afon Clywedog wrth fynd heibio i weddillion hanes diwydiannol cudd.

Mae’r ceunant yn hafan i fywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, pathewod, ystlumod pedol lleiaf, ac amrywiaeth unigryw o blanhigion fel cen, rhedyn, madarch a llysiau’r afu. Roedd glan yr afon hon unwaith yn fwrlwm o weithgarwch diwydiannol, ac mae adleisiau o’r cyfnod hwnnw’n dal i fodoli heddiw drwy’r felin, efail, melin wlân, a’r ffwrnais haearn sydd i’w gweld ar hyd y llwybr.

Llwybr Clywedog

Cyclists on the Mawddach Trail

Llwybr Mawddach

Graddfa: Mynediad i bawb
Pellter: 15km ond mae modd mwynhau tameidiau o’r llwybr

Yn ymestyn rhwng Dolgellau a Bermo, mae Llwybr Mawddach yn un o lwybrau mwyaf hygyrch ac amlbwrpas y Parc Cenedlaethol. Mae’r llwybr 9 milltir hwn yn olrhain glan ddeheuol Aber y Fawddach, ardal sy’n gyfoeth o  fywyd gwyllt ac sy’n arwyddocaol yn hanesyddol o fewn y parc.

Mae arwyneb gwastad y llwybr yn ei wneud yn berffaith ar gyfer bawb o bob gallu, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd oddi-ar-y-ffordd. Mae pwyntiau mynediad wedi’u gwasgaru ar hyd y llwybr, gan roi hyblygrwydd i’r rhai fyddai’n mwynhau taith gerdded fyrrach, fwy hamddenol ger yr aber. Mae teuluoedd yn aml yn mwynhau beicio ar hyd Llwybr Mawddach, gan gynnig diwrnod gwefreiddiol i bawb.

Llwybr Mawddach

A tramper-user and walker walk along a forested path on Lon Gwyrfai.

Lôn Gwyrfai

Graddfa: Hawdd
Pellter: 7km ond mae modd mwynhau tameidiau o’r llwybr

Lôn Gwyrfai, one of the National Park’s most versatile routes, stretches between Beddgelert and Rhyd Ddu. Designed for walkers, cyclists, and horse riders, this multi-use recreational path spans 4½ miles. Some sections even accommodate Tramper-type vehicles, which can be hired by the National Park Authority.

Lôn Gwyrfai winds through diverse landscapes, with captivating views of the Gwyrfai Valley, Yr Wyddfa and the surrounding area.

Lôn Gwyrfai

Cyn i chi gychwyn

Mae archwilio Eryri yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf yn brofiad hyfryd, ond mae’n dal yn hanfodol i flaenoriaethu eich diogelwch. Yn aml gall llwybrau coetir fynd yn llithrig, felly mae gwisgo esgidiau cerdded cadarn gyda gafael da yn hanfodol i osgoi damweiniau.

Gall y tywydd fod yn anwadal hefyd, yn enwedig yn yr uchelfannau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo neu’n cario haenau ychwanegol ac edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn.

Dylech hefyd sicrhau eich bod yn gyfforddus gyda’r lefel ffitrwydd sydd ei angen ar gyfer y llwybr o’ch blaen a’i fod hefyd yn addas ar gyfer unrhyw un arall sy’n cerdded gyda chi ar y llwybr.

Gwybodaeth ar ddiogelwch
Gwybodaeth ar raddfeydd llwybrau
Gwefan Adventure Smart