Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Canllaw i ddringo'r Wyddfa—yn eich poced

Mae app Llwybrau’r Wyddfa yn app sy’n gweithio gyda GPS all eich tywys ar hyd un o’r chwe prif lwybr i gopa’r Wyddfa. Mae’r app ar gael i’w lawrlwytho oddi ar yr App Store neu Google Play.

Lawrlwytho o’r App Store
Lawrlwytho o Google Play

Nodweddion yr App

Mae gan app Llwybrau’r Wyddfa lu o nodweddion i’ch tywys i gopa’r Wyddfa.

Holl lwybrau'r Wyddfa
Gall yr app eich tywys ar hyd unrhyw un o'r chwe prif lwybr i gopa'r Wyddfa.
Dim signal, dim problem
Mae'r app yn defnyddio technoleg GPS i'ch tywys. Does dim angen cysylltiad gwe, na chwaith signal ffôn i ddefnyddio'r app.
Hawdd i'w ddefnyddio
Mae'r app yn hawdd i'w ddefnyddio. Bydd eich lleoliad yn cael ei ddangos ar y map rhyngweithiol wrth i chi ddilyn eich llwybr i'r copa.
Cynllunio ymlaen llaw
Mae'r app yn berffaith i roi cymorth i chi wrth gynllunio eich taith ymlaen llaw.

Am yr app

Wedi’i gyd-gynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid, mae Llwybrau’r Wyddfa yn app perffaith i’ch tywys i gopa mynydd uchaf Eryri.

Mae’r app yn hawdd i’w ddefnyddio, yn gweithio gyda GPS ac yn cynnwys mapiau manwl sy’n olrhain eich lleoliad wrth i chi gerdded ar hyd unrhyw un o’r chwe prif lwybr i gopa’r Wyddfa.

Gall yr app weithio all-lein, sy’n golygu nad oes angen cysylltiad gwe neu hyd yn oed signal ffôn arnoch wrth ei ddefnyddio ar y mynydd.

Mae pob map yn cynnwys cyfuchliniau, felly gallwch gadw llygad am rannau anodd o’r llwybr wrth i chi gerdded.

Lawrlwytho’r app

Mae’r app ar gael i’w lawrlwytho ar blatfformau ddyfeisiadau iOS ac Android.

Lawrlwytho o’r App Store
Lawrlwyth o Google Play