Sut i gyrraedd Pen y Pass

Pen y Pass yw’r dechreubwynt ar gyfer Llwybrau’r Mwynwyr a Pyg sy’n arwain at gopa’r Wyddfa. Mae’n hanfodol cynllunio sut i gyrraedd Pen y Pass ymlaen llaw yn ystod y misoedd prysur rhwng Mawrth a Tachwedd.

Sherpa’r Wyddfa

Un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon o gyrraedd Pen y Pass yw defnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae’r gwasanaeth yn golygu y gallwch barcio yn Nant Peris, Llanberis neu Gaernarfon a gwneud defnydd o gysylltiadau uniongyrchol â Phen y Pass. Gall y gwasanaeth hefyd fynd â chi i Ben y Pass o Fangor.

Gwefan Sherpa’r Wyddfa

Tacsi neu liffd

Mae cael liffd gan ffrind neu dacsi yn ffordd effeithol arall i gyrraedd Pen y Pass. Ystyriwch yr opsiwn yma os yw’r maes parcio yn llawn. Byddwch yn barod i adael y cerbyd erbyn cyrraedd y maes parcio er mwyn osgoi tagfeydd.

Maes parcio Pen y Pass

Bydd y maes parcio yn dychwelyd i system rhagarchebu o 5ed o Ebrill 2025 tan yr 2il o Dachwedd 2025. Cynlluniwch eich ymweliad ymlaen llaw, gan ystyried meysydd parcio eraill, neu defnyddiwch wasanaethau bysiau yn yr ardal.

Gwefan Rhagarchebu

App Parcio Eryri

Mae app Parcio Eryri yn eich helpu i ddod o hyd i leoedd parcio sydd ar gael yng ngogledd Parc Cenedlaethol Eryri. Gan ddefnyddio data amser-real a synwyryddion, bydd yr ap yn eich cyfeirio at y mannau parcio mwyaf cyfleus yn ardaloedd Yr Wyddfa, Ogwen a Betws y Coed yn Eryri.

App Parcio Eryri

Cwestiynau cyffredin ynghylch Pen y Pass

Mae llefydd parcio pwrpasol ar gael ar gyfer deiliaid bathodyn glas ym Mhen y Pass ac yn gweithredu ar sail cyntaf i’r felin.

Os ydych chi’n defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, bydd pob taith yn cael ei gweithredu gan fysiau llawr isel gyda lle i gadeiriau olwyn.

Os ydych yn bwriadu parcio bws mini sydd yn fwy na 5 medr o hyd ym Mhen y Pass, bydd angen i chi gysylltu ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ymlaen llaw i drefnu eich lle parcio.

Cysylltu gyda’r Awdurdod

Nid oes unrhyw leoedd beiciau modur wedi’u neilltuo.

Yn ogystal, ni fydd beicwyr modur yn cael rhannu lle parcio. Mae pob lle parcio ar gyfer un cerbyd yn unig.

Bydd maes parcio Pen y Pass yn dychwelyd i system rhagarchebu o 5ed o Ebrill 2025 tan yr 2il o Dachwedd 2025.

Mae rhagor o fanylion am drefniadau parciau i westeion Hostel YHA Pen y Pass ar gael ar wefan yr hostel.

Gwefan Hostel YHA Pen y Pass