Cylchdaith gyda golygfeydd anhygoel o fynyddoedd a’r môr
Mae’r gylchdaith hon sydd yn cychwyn ym mhentref Croesor, yn swatio wrth odre Cnicht yn nhirwedd trawiadol Eryri. Dim ond pum milltir a hanner i’r gogledd-ddwyrain o Borthmadog, mae Croesor yn bentref hyfryd o’r 19eg ganrif a oedd yn arfer bod yn gartref i weithwyr o chwareli Rhosydd a Chroesor.
Mae’r daith yn mynd â chi drwy gwm prydferth Cwm Croesor, heibio Chwarel hanesyddol y Parc, ac i lawr iseldiroedd aber Afon Glaslyn. Mae rhai rhannau o’r llwybr yn wlyb ac yn serth ac yn croesi tir amaethyddol, felly cofiwch gadw eich cŵn ar dennyn.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r daith gylchol hon o bentref Croesor yn cynnig cyfuniad unigryw o hanes, natur a golygfeydd syfrdanol. Wrth deithio trwy Gwm Croesor ac wrth fynd heibio’r chwarel hanesyddol y Parc, byddwch yn dilyn ôl troed gweithwyr llechi’r 19eg ganrif. Byddwch hefyd yn mwynhau golygfeydd panoramig trawiadol o’r mynyddoedd a’r môr. Ar hyd y ffordd, fe welwch olion rhewlifol a thirluniau daearegol syfrdanol sy’n adrodd hanes y rhanbarth.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Dechrau / Diwedd
Maes parcio ym mhentref Croesor
Map OS perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog & Bala)
Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio ym mhentref Croesor
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Hanes lleol
Datblygodd pentref bychan Croesor i gartrefu chwarelwyr oedd yn gweithio yn chwareli llechi Rhosydd a Chroesor ymysg eraill. Agorodd y chwarel am y tro cyntaf oddeutu 1856 a chafodd ddechrau trafferthus iawn, hyd nes i Moses Kellow, rheolwr olaf y chwarel, ei chymryd mewn llaw yn 1895. Wedi hynny fe’i gweithiwyd yn effeithlon fel cwmni cyfunol gyda Chwarel Parc hyd nes ei chau yn 1930.
Rhwng 1865 – 1930 cynhyrchwyd tua 2,000 tunnell o lechen bob blwyddyn ar gyfartaledd. Darparwyd llechi at sawl gwahanol ddefnydd – gwnaed wynebau byrddau biliards yn Chwarel Parc ynghyd â cherrig simnai, cerrig beddi, slabiau llorio tai a nwyddau addurniadol ymysg pethau eraill.
Daeareg
Gwelir effeithiau rhewlifiant yr Oes Iâ ddiwethaf rhwng 26,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl yn y dyffryn hwn. Ceir yma graig waddodol feddal Ordofigaidd a erydwyd ymaith gan adael yr ymwthiadau afreolaidd o graig igneaidd megis y Cnicht a’r Moelwyn Mawr. Nid yw’r nodwedd “horn”, a welir yn yr Alpau, sy’n ffurfio o ganlyniad i gafnu rhewlifol o bedwar cyfeiriad wedi datblygu’n berffaith yng Nghymru. Y Moelwyn Mawr sydd wedi dod agosaf at hyn er mai Cnicht sydd wedi cael y llysenw “Matterhorn Cymru”.
Bob Owen Croesor (1885–1962)
Un o enwogion yr ardal a brodor o Lanfrothen, nepell oddi yma. Bu’n was fferm a bugail, clerc yn Chwarel Parc a Chroesor dan reolaeth Moses Kellow, yn drefnydd y Gwasanaeth Cymuned Gweldig ac yn ddarlithydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymddiddorai’n fawr mewn achyddiaeth yng Nghymru, casglu llyfrau prin a chopïo cofnodion plwyfi, a daeth yn awdurdod ar hanes Crynwriaeth. Yn ei gartref, Ael y Bryn, drws nesaf i’r capel, casglodd lyfrgell anferth o lyfrau, papurau a llawysgrifau, ac ymwelai Americanwyr ag ef i hel eu hachau.
Dyfarnwyd gradd Prifysgol Cymru iddo, ac O.B.E. am ei gyfraniad i ddiwylliant ei wlad.