Un o ddau lwybr i gopa Cader Idris ar hyd ei lethrau deheuol.
Mae Llwybr Llanfihangel y Pennant yn un o dri llwybr i gopa Cader Idris. Mae Llwybr Minffordd a Llwybr Pilin Pwn yn llwybrau posib eraill i’r brig.
Dyma’r llwybr hawsaf i fyny Cader Idris, ond dyma’r hiraf, dros bum milltir. Mae’r llwybr yn nesau at Gader Idris o ben dyffryn Dysynni ac yn dringo’n raddol i fyny i ymuno â Llwybr Pilin Pwn ar ben Rhiw Gwredydd.
Mae Cader Idris yn un o gopaon mwyaf poblogaidd de Eryri ac yn gopa sy’n gyforiog o chwedloniaeth a llên gwerin.
Pam y llwybr hwn?
Mae Llwybr Llanfihangel y Pennant yn llwybr anodd/llafurus. Mae angen lefel dda o ffitrwydd ac mae sgiliau cyfeiriannu yn hanfodol.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.
Dechrau/Diwedd
Maes parcio yn Llanfihangel y Pennant (SH 672 089)
Map Perthnasol
OS Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Parcio cyferbyn eglwys Llanfihangel y Pennant
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Mari Jones
Wrth groesi’r bont dros Afon Cader, fe welwch adfeilion bwthyn yn cynnwys carreg goffa ar y dde i chi. Hwn oedd cartref Mari Jones, ym 1800 cerddodd 25 milltir yn droednoeth dros y mynyddoedd i’r Bala i brynu un Beibl Cymraeg gan y Parch Thomas Charles. Dywedir mai ei hymroddiad hi a’i hysbrydolodd i sefydlu Cymdeithas y Beibl.
Mytholeg a Llên Gwerin
Allan o holl gopaon Eryri, Cader Idris yn ddiamau yw’r mwyaf trwyth o fytholeg. Mae chwedlau di-rif yn gysylltiedig â’r copa cyfriniol hwn a’r llynnoedd cyfagos.
Dywedir yn aml fod enw Cader Idris, yn deillio o gawr o’r enw Idris. Yn ôl y chwedl, defnyddiodd Idris y copa fel cadair i arolygu ei deyrnas. Mae damcaniaeth arall yn awgrymu bod y mynydd wedi’i enwi ar ôl Idris ap Gwyddno, tywysog Meirionnydd o’r 7fed ganrif.
Mae llawer o’r llynnoedd o amgylch Cader Idris i fod yn ddiwaelod, a dywedir, ar ôl treulio noson ar y copa, y byddai rhywun naill ai’n deffro’n fardd neu’n ‘wallgofddyn’.
Mae chwedloniaeth Cymru hefyd yn awgrymu mai Cader Idris oedd maes hela Gwyn ap Nudd a’i Gŵn Annwn. Yr oedd udo’r helgwn hwn yn rhagfynegi marwolaeth i bawb a’i clywai — yn gyru eu henaid i’r isfyd.
Daeareg a Bioamrywiaeth
Ffurfiwyd Cader Idris o greigiau gwaddodol ac igneaidd o’r oes Ordofigaidd. Ffurfiwyd Llyn Cau, sydd ar waelod Cwm Cau, tebyg i grater, gan weithgaredd rhewlifol ar draws sawl oes iâ. Roedd maint y rhewlif hyd at gilometr sgwâr ar un adeg.
Mae llawer o’r ardal o amgylch Cader Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol ddynodedig – cartref i blanhigion Artig-alpaidd fel y tormaen porffor a chorhelyg.
Cader Idris ar gynfas
Yn y 18fed ganrif, gwnaeth Richard Wilson, arlunydd o Fachynlleth, y daith gerdded i lan Llyn Cau wrth droed Cader Idris. Yma peintiodd yr hyn y gellir dadlau mai ei dirlun mwyaf adnabyddus.
Mae’n bwysig cofio mai dyma’r dyddiau cyn ffotograffiaeth, a phaentiad Wilson fyddai’r tro cyntaf i lawer weld tirwedd Eryri.