Mae Eryri yn dirwedd sy’n llawn chwedloniaeth a llên gwerin. O ddreigiau a chewri i dylwyth teg hudolus a llynnoedd cyfriniol, dyma dirwedd sydd wedi ysbrydoli chwedlau di-ri dros sawl canrif.
Pa ffordd well o ymgolli ym mytholeg a chwedlau Eryri na cherdded yr union leoliadau lle’u hysbrydolwyd? Beth am ddilyn ôl troed bodau chwedlonol Eryri ac archwilio’r lleoedd oesol hyn? Dyma bum taith gerdded arbennig i ddarganfod chwedloniaeth Eryri.
Llwybr Pren Traeth Benar
Mae Llwybr Pren Benar yn ymestyn at lannau tywodlyd Traeth Benar. Mae’r llwybr yn opsiwn gwych i deuluoedd gyda pramiau neu rai sy’n defnyddio sgwteri symudedd tebyg i dramper. Dyma hefyd le perffaith i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.
Bae Ceredigion yw lleoliad un o chwedlau enwocaf Cymru, sef stori Seithennyn a Chantre’r Gwaelod. Yn ôl y chwedl, dinas chwedlonol wedi ei lleoli yn y bae oedd Cantre’r Gwaelod. Roedd gatiau yn amgylchynu’r ddinas i’w hamddiffyn rhag llifogydd yn ystod llanw uchel y bae. Cyfrifoldeb dyn ifanc o’r enw Seithennyn oedd cau’r gatiau bob nos.
Un noson, fe yfodd Seithennyn ormod o fedd ac anghofio cau’r gatiau. Erbyn y bore, roedd dinas Cantre’r Gwaelod dan ddŵr. Mae llawer yn honni y gallwch ar ddiwrnod tawel, glywed clychau Cantre’r Gwaelod yn parhau i ganu o dan y dŵr.
Cader Idris
Yn sefyll 2,930 troedfedd uwch lefel y môr, mae Cader Idris yn un o gopaon mwyaf adnabyddus Eryri. Mae tri llwybr yn arwain at gopa Cader Idris—Llwybr Minffordd, llwybr Llanfihangel-y-Pennant a Llwybr Pilin Pwn (Tŷ Nant).
Heb os nac oni bai, Cader Idris yw copa mwyaf chwedlonol Eryri. Mae chwedlau niferus yn gysylltiedig â’r copa cyfriniol hwn a’i lynnoedd cyfagos. Dywedir yn aml fod enw’r mynydd yn tarddu o gawr o’r enw Idris. Yn ôl y chwedl, roedd Idris yn defnyddio’r copa fel cadair i arolygu ei deyrnas. Mae sî arall yn awgrymu bod y mynydd wedi’i enwi ar ôl Idris ap Gwyddno, tywysog Meirionnydd yn y 7fed ganrif.
Mae sôn fod llawer o’r llynnoedd o amgylch Cader Idris yn rhai di-waelod, a dywedir ar ôl treulio noson ar y copa y byddai rhywun naill ai’n deffro’n fardd neu’n ‘wallgofddyn’. Mae chwedloniaeth hefyd yn awgrymu mai Cader Idris oedd maes hela Gwyn ap Nudd a’i Gŵn Annwn. Roedd clywed udo’r helgwn Annwn yn rhagfynegi marwolaeth i bawb a’i clywodd, gan yrru eu henaid i’r isfyd.
Llwybr Minffordd, Cader Idris
Llanfihangel-y-Pennant, Cader Idris
Llwybr Pilin Pwn (Tŷ Nant), Cader Idris
Llyn Tegid De a Gogledd
Mae Llyn Tegid yn lyn sy’n llawn llên gwerin. Mae’n debyg fod y llyn wedi ei enwi ar ôl y Brenin Tegid Foel. Yn ôl yr hanes, mae tref Tegid Foel yn dal i fodoli ar waelod y llyn. Boddwyd y dref o ganlyniad i ffyrdd creulon a drygionus y brenin.
Tra bod llawer o ymwelwyr Llyn Tegid yn ymweld i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr fel padlfyrddio a chaiacio, mae hefyd modd mwynhau sawl llwybr cerdded gwych ar gyrion y llyn . Mae llwybrau Gogledd a De Llyn Tegid yn arwain drwy gefn gwlad cyfoethog ger traethlin y llyn, gan roi cyfle i werthfawrogi harddwch naturiol a hanes diwylliannol cyfoethog ardal Llanuwchllyn a’r Bala.
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Mae Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan yn gylchdaith sy’n cychwyn o bentref Beddgelert. Mae’r pentref wedi’i enwi ar ôl un o chwedlau mwyaf nodedig Cymru—chwedl Gelert.
Gelert oedd ci ffyddlon un o dywysogion enwocaf Cymru, Llywelyn Fawr.
Mae Beddgelert yn cael ei adnabod fel man gorffwys Gelert, ci ffyddlon un o dywysogion enwocaf Cymru, Llywelyn Fawr. Lladdodd Llywelyn ei gi mewn camddealltwriaeth trychinebus a thorcalonnus. Byddwch yn mynd heibio bedd Gelert ar hyd y llwybr hwn.
Ymhellach ar hyd y llwybr, wrth i chi gyrraedd Llyn Dinas, efallai y byddwch yn sylwi ar frigiad creigiog yn uchel uwchben y llyn. Dyma fan chwedlonol arall. Yn ôl y sôn, roedd brenin â’r bwriad o adeiladu castell ar y brigiad hwn ond roedd ei ymdrechion yn aflwyddiannus. Byddai gwaith adeiladu’r dydd yn adfail erbyn y bore wedyn.
Mewn dryswch, fe aeth y brenin at ddewin o’r enw Myrddin Emrys a honnodd mai dreigiau’n ymladd dan y bryn oedd yn achosi’r distryw dyddiol. Cloddiodd y brenin a’i ddynion yn ddwfn i’r mynydd, gan ryddhau un draig goch ac un draig wen. Ymladdodd y dreigiau yn ffyrnig nes i’r ddraig wen ffoi. Dychwelodd y ddraig goch i’r mynydd. Llwyddodd y brenin i adeiladu ei gastell a’i enwi’n Dinas Emrys, er anrhydedd i’r dewin.
Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa
Mae Llwybr y Mwynwyr yn un o’r llwybrau heriol niferus i gopa mynydd prysuraf Eryri. Gan gychwyn o Ben y Pass, bydd y llwybr yn eich arwain ar hyd Llyn Llydaw, i fyny esgyniad creigiog heriol, i gopa eiconig Yr Wyddfa.
Yn ôl y chwedl, Yr Wyddfa yw man gorffwys Rhita Gawr, cawr brawychus a wisgai glogyn wedi ei wneud o farfau dynion. Lladdwyd Rhita mewn brwydr waedlyd yn erbyn y Brenin Arthur a dorrodd ben y cawr i ffwrdd. Claddwyd pen Rhita ar gopa’r Wyddfa.
Mae Llwybr y Mwynwyr yn gartref i chwedl Arthuraidd arall. Yn ôl yr hanes, anafwyd y Brenin Arthur yn angheuol gan saeth mewn brwydr ym Mwlch y Saethau. Cludwyd ef i lan Llyn Llydaw, lle yr oedd cwch â thair morwyn yn ei ddisgwyl. Aeth y morwynion ag ef trwy’r niwl i wlad chwedlonol Afallon.