Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Gall cyrraedd rhai o lwybrau cerdded gorau Eryri heb gar swnio fel tasg anodd. Fodd bynnag, mae llawer o lwybrau Eryri yn rhyfeddol o hawdd i’w cyrraedd. O deithiau heriol i lwybrau arfordirol hamddenol, mae yna ddigonedd o opsiynau i’w mwynhau.

A heron on the Mawddach estuary

Llwybr Mawddach

Mae Llwybr Mawddach yn lwybr 9-milltir rhwng Dolgellau ac Abermaw. Mae’n rhedeg ar hyd traethlin deheuol Afon Mawddach ac fe’i hystyrir yn un o’r llwybrau mwyaf hyblyg a hygyrch yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’n lwybr sy’n addas ar gyfer pob gallu a gall fod yn ddewis da i feicwyr neu’r rhai sy’n defnyddio sgwteri symudedd oddi-ar-y-ffordd.

Y ffordd orau o gael gyrraedd y llwybr os ydych yn ymweld ag Eryri heb gar yw o Ddolgellau neu Bermo. Mae Dolgellau yn un o’r prif arosfannau ar gyfer nifer o lwybrau bysiau drwy’r Parc Cenedlaethol.  Dim ond munud o gerdded yw dechrau’r llwybr o ganol tref Dolgellau.

Mae Abermaw yn un o’r arosfannau ar Reilffordd y Cambrian, rheilffordd sy’n rhedeg ar hyd arfordir gorllewinol y Parc Cenedlaethol. Os ydych yn ymuno â Llwybr Mawddach o Bermo, cewch gyfle i groesi’r Mawddach dros draphont trawiadol Abermaw.

Opsiwn gwych arall ar gyfer Llwybr Mawddach yw cwblhau’r llwybr ar e-Feic. Mae opsiynau llogi beiciau yn Nolgellau ac Abermaw.

Llwybr Mawddach
Rheilffordd Cambrian (Gwefan Trafnidiaeth Cymru)

Tramper on Lon Gwyrfai

Lôn Gwyrfai

Mae Lôn Gwyrfai yn lwybr aml-ddefnydd 4 milltir o hyd rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert. Mae’r llwybr yn arwain trwy amrywiaeth o dirweddau gan gynnig golygfeydd gwych o ddyffryn Gwyrfai a’r Wyddfa.

Mae sawl ffordd o gyrraedd Lôn Gwyrfai heb gar. Un ffordd unigryw fyddai’r rheilffordd stêm. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru yn ymestyn rhwng Caernarfon a Phorthmadog ac yn rhedeg ochr yn ochr â rhannau o Lôn Gwyrfai. Mae gan y rheilffordd arosfannau yn Rhyd Ddu a Beddgelert—dau le lle y gallwch ymuno â Lon Gwyrfai.

Mae Beddgelert a Rhyd Ddu hefyd yn hygyrch ar fws. Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn cyrraedd y ddau leoliad.

Lôn Gwyrfai
Rheilffordd Ucheldir Cymru (Caernarfon a Beddgelert)
Gwefan Sherpa’r Wyddfa

A view of Llyn Cau

Llwybr Minffordd, Cader Idris

Mae Llwybr Minffordd yn un o dri llwybr i gopa Cader Idris. Wedi’i leoli yn ne’r Parc Cenedlaethol, mae Cader Idris yn gopa llawn chwedloniaeth a llên gwerin ac mae’n un o ddringfeydd mynydd mwyaf heriol y Parc Cenedlaethol.

Gall cyrraedd llwybrau’r mynydd fod yn ymdrech anodd heb gar. Fodd bynnag, gellir cyrraedd Llwybr Minffordd yn hawdd ar fws.

Mae gwasanaeth bws T2 yn teithio rhwng Aberystwyth a Bangor. Bydd safle bws ‘Gwesty’r Minffordd am Gader Idris’ yn eich gollwng ychydig funudau o faes parcio Dôl Idris, man cychwyn Llwybr Minffordd. Wrth deithio ar y gwasanaeth, byddwch yn ymwybodol o sawl arhosfan arall o’r enw ‘Minffordd’ a sicrhewch eich bod yn dod oddi ar y bws yng Ngwesty Minffordd i Gader Idris.

Llwybr Minffordd, Cader Idris
Gwasanaeth bws T2 (Gwefan Traws Cymru)

Aerial photo of Dolwyddelan Castle

Cwm Penamnen, Dolwyddelan

Cwm sy’n arwain tua’r de o bentref Dolwyddelan yw Cwm Penamnen .

Mae dau lwybr i’w dewis—llwybr byr 3 milltir a llwybr hirach 6 milltir. Mae’r ddau lwybr yn gylchdeithiau ac yn cychwyn yn Nolwyddelan.

Mae Cwm Penamnen yn rhyfeddol o hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus. Y ffordd orau o gyrraedd y llwybr yw ar hyd rheilffordd Dyffryn Conwy. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog gan alw ym Metws y Coed a Llanrwst. Bydd angen i chi ddod oddi ar y trên yng ngorsaf Dolwyddelan ar gyfer cyrraedd llwybrau Cwm Penamnen. Mae’r llwybrau byr a hir yn cychwyn o’r orsaf drenau.

Cwm Penamnen (Byr)
Cwm Penamnen (Hir)
Gwefan Rheilffordd Dyffryn Conwy

Llwybr Pysgotwr a Chwm Bychan

Mae Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan yn gylchdaith 6 milltir o hyd sy’n cychwyn ym mhentref hardd Beddgelert. Mae’n cychwyn trwy ddilyn afon arallfydol Glaslyn, i fyny i Gwm Bychan cyn cyrraedd Llyn Dinas.

Mae’r llwybr yn cael ei gategoreiddio fel llwybr Anodd/Llafurus gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a dim ond yn addas ar gyfer y rhai sydd â lefel dda o ffitrwydd.

Mae cyrraedd y llwybr yn hawdd gyda digon o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, sy’n teithio o amgylch gwaelod Yr Wyddfa, yn galw’n rheolaidd ym Meddgelert. Mae cysylltiadau gwych o Fangor a Betws y Coed yn ogystal â chysylltiadau uniongyrchol o Gaernarfon a Phorthmadog.

Llwybr Pysgotwr a Chwm Bychan
Gwefan Sherpa’r Wyddfa