Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yr hiraf o ddau lwybr trwy ddyffryn hanesyddol Cwm Penamnen

Cwm sy’n arwain tua’r de o bentref Dolwyddelan yw Cwm Penamnen . O’i ffordd Rufeinig hynafol i’w chastell canoloesol anferth, mae Penamnen yn gartref i lawer o drysorau hanesyddol llai adnabyddus y Parc Cenedlaethol.

Bydd y daith gylchol hon yn cychwyn ym mhentref bychan Dolwyddelan ac yn dringo’n raddol drwy goedwigoedd y dyffryn. Mae’n dychwelyd i Ddolwyddelan ar hyd rhan o’r ffordd Rufeinig hynafol, Sarn Helen.

Pam y llwybr hwn?

Mae’n bosib crwydro Cwm Penamnen ar hyd dau lwybr gwahanol. Bydd y llwybr hirach, 3 awr, yn mynd â chi i ben y dyffryn ger odre dwyreiniol Moel Penamnen cyn dychwelyd i bentref Dolwyddelan. Bydd y dewis byrrach, 1 awr yn mynd â chi draean o’r ffordd i fyny’r dyffryn cyn ymuno â’r llwybr hirach wrth ddychwelyd i Ddolwyddelan.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau / Diwedd
Maes parcio yng ngorsaf drenau Dolwyddelan

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog a’r Bala)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Gallwch gyrraedd y daith hon ar drên.

Gorsaf drenau Dolwyddelan

Os yn gyrru, cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio: Gorsaf drenau Dolwyddelan

Gweld y maes parcio ar What 3 Words
Gweld y maes parcio ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Castell Dolwyddelan

Mae Castell Dolwyddelan yn rhan o gyfres o gestyll mynydd y credir iddynt gael eu hadeiladu ledled Eryri gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Roedd Dolwyddelan yn un o gadarnleoedd Cymreig ardal Conwy, gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd cyfagos.

Llywelyn oedd tywysog Gwynedd o 1195–1240, a chodwyd Castell Dolwyddelan yn bwrpasol ar droad y 13G i amddiffyn bwlch y mynydd.

Dim ond un tŵr sydd ar ôl yn gyfan erbyn heddiw. Gellir gweld adfeilion y tŵr a godwyd gan Edward I, ynghyd ag olion lloc y castell.

Ffordd Rufeinig Sarn Helen

Ffordd Rufeinig sy’n ymestyn mewn sawl rhan fechan o Aberconwy i Gaerfyrddin yw Sarn Helen . Credir bod y llwybr 160 milltir o hyd wedi’i enwi ar ôl Sant Elen o Gaernarfon. Sant Celtaidd oedd Sant Elen ac adroddir ei hanes yn ‘Breuddwyd Macsen Wledig’—rhan o’r casgliad o chwedlau Cymraeg, Y Mabinogi.

Byddwch yn cerdded ar hyd Sarn Helen wrth i chi ddychwelyd i Ddolwyddelan. Roedd y rhan arbennig hon o’r ffordd Rufeinig yn cysylltu caerau Tomen y Mur ger Trawsfynydd a Chaerhun yn Nyffryn Conwy.

Tai Penamnen

Wrth ddychwelyd i bentref Dolwyddelan, byddwch yn mynd heibio adfeilion Tai Penamnen. Yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 15fed ganrif, credir bod Tai Penamnen yn gartref i Maredudd ap Ieuan, Pennaeth Tŷ Brenhinol Cunedda. Yn wreiddiol roedd Maredudd yn byw yng Nghastell Dolwyddelan gerllaw cyn symud i  Dai Penamnen. Symudodd i’r cartref gyda nifer o’i ferched a’i 20 o blant.

Disgynyddion Maredudd yw’r Wyniaid o  Gastell Gwydir — maenordy caerog ar gyrion Llanrwst.

Darganfyddwch lwybrau eraill