Maes parcio Pen y Pass

Rhagor o wybodaeth am faes parcio Pen y Pass

Mae modd hefyd cyrraedd y maes parcio drwy ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.

Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa

Mae sawl opsiwn ar gyfer parcio i ddringo’r Wyddfa ac mae pa faes parcio y dylech ei ddefnyddio yn dibynnu ar ba lwybr rydych chi’n bwriadu ei ddringo.

Cadwch mewn cof

Mae ardal Yr Wyddfa yn ardal prysur, yn enwedig yn ystod tymor yr haf. Defnyddiwch y meysydd parcio swyddogol a byddwch yn ystyriol o’r cymunedau lleol.

Parcio mewn cilfannau
Dylech osgoi parcio mewn cilfannau ar hyd y ffyrdd yn arwain i Ben y Pass. Gall y lleoedd hyn brysuro yn hynod gyflym.
Cerdded ar hyd y ffordd
Dylech osgoi cerdded ar hyd y ffyrdd yn arwain i Ben y Pass. Mae hi’n ffordd cul, troellog a pheryglus mewn rhai mannau.
Cymunedau Lleol
Cofiwch fod llawer o’r meysydd parcio wedi eu lleoli mewn cymunedau lleol bychain. Peidiwch a pharcio’n anghyfrifol na mewn mannau preswyl.