Mae ardal Yr Wyddfa yn ardal prysur, yn enwedig yn ystod tymor yr haf. Defnyddiwch y meysydd parcio swyddogol a byddwch yn ystyriol o’r cymunedau lleol.
Maes parcio Pen y Pass
Mae maes parcio Pen y Pass nawr yn gweithredu ar sail rhagarchebu.
Rhagor o wybodaeth am faes parcio Pen y Pass
Mae modd hefyd cyrraedd y maes parcio drwy ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.
Mae sawl opsiwn ar gyfer parcio i ddringo’r Wyddfa ac mae pa faes parcio y dylech ei ddefnyddio yn dibynnu ar ba lwybr rydych chi’n bwriadu ei ddringo.
App Parcio Eryri
Mae app Parcio Eryri yn eich cynorthwyo i ddarganfod lle parcio yng nogledd Parc Cenedlaethol Eryri. Gan ddefnyddio data a synwyryddion amser-real, mae’r app yn eich tywys i’r lle parcio fwyaf cyfleus yn ardaloedd prysuraf Eryri.
Defnyddiwch faes parcio swyddogol ym mhentref Llanberis. Peidiwch a pharcio ar strydoedd ac o flaen rhesi o dai. Os yn cerdded Yr Wyddfa yn y nos, cadwch yn dawel wrth fynd heibio mannau preswyl.
Ar gyfer llwybrau’r Mwynwyr a Pyg, defnyddiwch faes parcio Pen y Pass neu’r gwasanaeth parcio a theithio o Nant Peris.
Maes Parcio Pen y Pass
Mae’r maes parcio’n gweithredu ar sail talu ac arddangos o 30 Hydref, 2023.
Rhagor o wybodaeth am faes parcio Pen y Pass
Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa
Maes Parcio a Theithio Nant Peris
Dan berchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Ar gyfer Llwybr Watkin, defnyddiwch faes parcio Pont Bethania yn Nant Gwynant.
Maes Parcio Pont Bethania, Nant Gwynant
Dan berchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Ar gyfer Llwybr Cwellyn, defnyddiwch faes parcio Llyn Cwellyn.
Maes Parcio Llyn Cwellyn
Dan berchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Ar gyfer Llwybr Rhyd Ddu, defnyddiwch y maes parcio ym mhentref Rhyd Ddu.
Maes Parcio Rhyd Ddu
Dan berchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri