Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Gall Eryri fod yr un mor gyfareddol ym mhob tymor

Mae mynyddoedd mawreddog, dyffrynnoedd gwyrddlas, a llynnoedd crisial-glir Parc Cenedlaethol Eryri yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae dewis yr amser gorau i ymweld ag Eryri yn dibynnu ar y math o ymweliad yr hoffech chi ei fwynhau. Mae’r canllaw hwn yn archwilio manteision ac anfanteision ymweld ag Eryri ym mhob tymor, gan eich helpu i gynllunio ymweliad bythgofiadwy â’r Parc Cenedlaethol.

Two young farmers herd sheep with a sheepdog with mountainous pastures in the background.

Gwanwyn

Mae’r gwanwyn yn gyfnod o adfywiad yn Eryri wrth i’r tirwedd ddeffro o drwmgwsg yr hydref a’r gaeaf.

Dyma dymor perffaith i archwilio rhyfeddodau hanesyddol Eryri gan gynnwys y cestyll godidog neu wrth gwrs, Yr Ysgwrn, cartref un o feirdd enwocaf Cymru, Hedd Wyn.

Mae’r gwanwyn hefyd yn cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden fel canŵio neu badlfyrddio gan fod y tywydd yn dueddol o fod yn gynhesach a rhai o’r ardaloedd prysur yn llai gorlawn o gymharu â misoedd yr haf.

Nofio Gwyllt a Gweithgareddau Dŵr

Er mai’r gwanwyn yw’r ail dymor prysuraf yn Eryri, mae nifer yr ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn yn tua hanner y nifer sy’n ymweld yn ystod misoedd yr haf. Mae’r gwanwyn, felly, yn amser da i ymweld ag Eryri os ydych yn awchu i fwynhau tywydd cynhesach ond yn awyddus i osgoi prysurdeb yr haf ar yr un pryd.

Fodd bynnag, mae’n werth cofio bod gwyliau banc y Pasg a’r gwanwyn yn tueddu i ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr wrth i ysgolion gau a theuluoedd fanteisio ar y tywydd braf.

Mae ymweld ag Eryri yn ystod y tymor ysgol neu yn ystod yr wythnos yn opsiwn da os ydych am osgoi prysurdeb y gwyliau.

Wrth i’r tymheredd gynhesu, efallai y byddwch chi’n mwynhau aros yn un o’r meysydd gwersylla a glampio niferus sydd o fewn neu ar gyrion y Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n werth cofio nad yw ambell gawod o law yn anarferol yn ystod y gwanwyn yn Eryri.

Os am aros yn Eryri yn ystod y gwanwyn, dylech archebu unrhyw lety ymlaen llaw gan mai dyma un o’r tymhorau prysuraf yn y Parc Cenedlaethol.

Gwersylla a Gwersylla Gwyllt
Faniau Cysgu a Chartrefi Modur
Llety (Gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr)

Gall tymor y gwanwyn fod yn amser da i ymweld ag Eryri os ydych yn awchu i fwynhau tywydd cynhesach tra hefyd yn awyddus i osgoi prysurdeb yr haf.

Fodd bynnag, dylech nodi y gall gwyliau banc y Pasg a’r gwanwyn fod yn hynod o brysur ledled y Parc Cenedlaethol yn ogystal â’r ardaloedd cyfagos.

Os ydych chi’n ymweld gyda’ch ci, dylech gadw mewn cof fod llawer o weithgareddau ffermio, fel y tymor wyna, yn digwydd yn ystod y gwanwyn. Dylech bob amser gadw eich ci dan reolaeth agos ar lwybrau cyhoeddus. Os ydych yn agos at dda byw, dylech gadw’ch ci ar dennyn.

Cŵn yn Eryri

A view of the bridge at the centre of Beddgelert in the summer.

Haf

Yr haf yw’r tymor prysuraf o bell ffordd yn Eryri. Nid yw’n syndod bod y Parc Cenedlaethol yn gweld cymaint o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf wrth i ysgolion gau a’r tywydd gynhesu. Mae gweithgareddau dŵr fel canŵio a padlfyrddio yn boblogaidd iawn yn ystod yr haf ac mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn mwynhau cerdded ar hyd y miloedd o filltiroedd o lwybrau i gopaon syfrdanol Eryri.

Gall nifer yr ymwelwyr ag Eryri yn ystod yr haf ddyblu o’i gymharu â’r gwanwyn. Mae’n gwbl hanfodol eich bod chi’n cynllunio eich ymweliad o flaen llaw os ydych chi’n bwriadu ymweld yn ystod y tymor prysur hwn. Ceisiwch gadw lle ymlaen llaw os ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau a chofiwch y bydd hi’n brysur iawn yn y Parc—yn enwedig mewn ardaloedd poblogaidd fel Yr Wyddfa, Llanberis, Ogwen a Betws y Coed.

Os ydych chi’n ystyried ymweld ag unrhyw atyniadau yn ystod eich ymweliad, gallwch wirio prysurdeb llawer o atyniadau Eryri arlein yn ogystal â chadw lle ymlaen llaw i osgoi siom.

Cynllunio eich ymweliad

Argymhellir yn gryf eich bod yn archebu eich llety ymlaen llaw os ydych yn ymweld ag Eryri yn yr haf gan fod llawer o opsiynau’n llawn fisoedd ymlaen llaw.

Er nad oes sicrwydd llwyr o hafau heb gawodydd o law yn y Parc Cenedlaethol, mae’n aml yn ddigon cynnes a sych i aros yn un o’r nifer o safleoedd gwersylla a glampio yn, ac ar gyrion y Parc. Mae yna hefyd ddigonedd o opsiynau hunanarlwyo, lletyai gwely a brecwast a gwestai.

Mae’n bosib hefyd y bydd gwerth i chi ystyried pa mor agos yw eich llety at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus os ydych yn ymweld ag Eryri heb gar.

Er bod rhai safleoedd gwersylla yn derbyn cyraeddiadau funud olaf, y ffordd orau i osgoi siom ydi archebu lle mewn gwersyllfan ymlaen llaw.

Cofiwch, ni chaniateir gwersylla gwyllt yn unman yn Eryri heb ganiatâd gan y tirfeddiannwr ymlaen llaw.

Gwersylla a Gwersylla Gwyllt
Faniau Cysgu a Chartrefi Modur
Llety (Gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr)

Os ydych yn ystyried dringo’r Wyddfa yn ystod misoedd yr haf, dylech fod yn ymwybodol o’r nifer sylweddol o ymwelwyr y mae’r mynydd yn ei ddenu.

Yn 2021, dringodd dros 115,000 o ymwelwyr Yr Wyddfa ym mis Awst yn unig, o gymharu â 55,000 ym mis Mai. Mae’r copa yn aml yn brysur iawn yn ystod yr haf gyda chiwiau hir i gyrraedd carnedd y copa.

Argymhellir yn gryf hefyd i chi ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa i deithio i ardal Yr Wyddfa. Ehangir y gwasanaeth dros yr haf gyda bysiau rheolaidd i ac o’r llwybrau i’r copa.

Cyrraedd Yr Wyddfa

Os nad yw eich ymweliad yn cael ei gyfyngu gan amseriad gwyliau ysgol neu debyg, mae’n bosib y byddwch yn awyddus i ystyried ymweld ag Eryri ar adeg lai prysur na’r haf. Gall Eryri fod yn hynod brysur yn ystod y tymor brig hwn.

Mae cynllunio ymlaen llaw yn hanfodol wrth ymweld ag Eryri yn yr haf. Dylech archebu eich llety fisoedd ymlaen llaw ac argymhellir yn gryf eich bod yn cadw lleoedd i unrhyw atyniadau poblogaidd yn yr ardal os ydych chi’n bwriadu ymweld â nhw.

Efallai yr hoffech chi hefyd ystyried defnyddio’r rhwydweithiau trenau a bysiau yn y Parc Cenedlaethol oherwydd gall meysydd parcio lenwi’n gyflym yn ystod oriau brig.

Drone photo of waterfall at Felenrhyd and Llennyrch woods on an autumn day.

Hydref

Daw’r hydref â swyn arbennig i Eryri wrth i liwiau oren-goch hydrefol y tirwedd a’r tymheredd oerach ychwanegu naws cynnes a chlyd i’r ardal.

Yn dibynnu ar y tymheredd ar y pryd, efallai y bydd rhai o gopaon uchaf Eryri wedi’u gorchuddio ag eira. Dylech gymryd gofal ychwanegol a chadw llygad barcud ar y tywydd os ydych yn ystyried cyrraedd unrhyw un o gopaon Eryri yn ystod yr hydref. Fodd bynnag, mae digon o deithiau cerdded drwy goedlannau hardd i’w mwynhau—perffaith ar gyfer teithiau cerdded hydrefol.

Mae’r hydref hefyd yn gyfle gwych i fwynhau ychydig o ffotograffiaeth ac, os bydd y tywydd yn caniatáu, efallai y cewch gip ar awyr dywyll hudolus y Parc Cenedlaethol.

Gall nifer yr ymwelwyr i Eryri fod yn sylweddol is yn ystod yr hydref o gymharu â thymhorau prysur y gwanwyn a’r haf. Mae’r hydref felly’n gallu bod yn dymor gwych i fwynhau harddwch naturiol y Parc Cenedlaethol mewn amgylchedd tawelach a mwy heddychlon.

Er y gall penwythnosau ddal i ddenu cryn dipyn o ymwelwyr, mae dyddiau’r wythnos yn dueddol o fod yn llai prysur. Felly, os oes gennych yr hyblygrwydd i deithio yn ystod yr wythnos, mae’n debygol y cewch brofiad mwy heddychlon.

Mae’r opsiynau llety yn Eryri yn ystod yr hydref yn amrywiol a niferus. O fythynnod clyd i westai moethus, mae rhywbeth at ddant pawb a phob cyllideb.

Gyda llai o ymwelwyr yn yr ardal yn ystod yr hydref, efallai y bydd gennych fwy o hyblygrwydd gyda’ch opsiynau llety. Fodd bynnag, mae bob amser yn well archebu ymlaen llaw os yw eich cynlluniau yn caniatáu.

Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd llawer o feysydd gwersylla yn cau yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf felly mae’n well ymchwilio ymlaen llaw os ydych chi’n ystyried llety awyr agored.

Llety (Gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr)

Fel arfer mae digon o opsiynau llety yn Eryri yn ystod misoedd yr hydref. Fodd bynnag, gall y penwythnosau fod yn brysur felly mae’n well archebu ymlaen llaw os oes gennych chi gynlluniau penodol.

Fel un o’r tymhorau gyda’r nifer lleiaf o ymwelwyr, gall yr hydref fod yn amser gwych i archwilio rhai o’r ardaloedd prysuraf fel Cwm Idwal.

Bydd y rhan fwyaf o amwynderau fel tafarndai, bwytai a chaffis ar agor ond efallai y byddant yn gweithredu ar oriau gostyngedig.

Mae’n bosibl y bydd rhai o atyniadau ymwelwyr Eryri hefyd yn gweithredu ar oriau gostyngedig felly mae’n well cynllunio eich ymweliadau ag atyniadau ymlaen llaw i osgoi siom.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael eu lleihau yn ystod yr hydref.

A winter day at Cwm Idwal where snow covers the landscape.

Gaeaf

Mae’r gaeaf ymysg y tawelaf o dymhorau yn y Parc Cenedlaethol. Gall fod yn gyfnod perffaith i fwynhau unigedd a llonyddwch Eryri.

Dylech gymryd gofal mawr os ydych yn ystyried cyrraedd un o gopaon Eryri yn ystod y gaeaf. Gall amodau’r gaeaf ofyn am brofiad a gwybodaeth drylwyr o fynydda gaeafol. Mae gwefan Adventure Smart yn llawn adnoddau defnyddiol ar gyfer diogelwch mynydd. Fodd bynnag, mae digon o deithiau cerdded gaeafol mwy diogel i’w mwynhau yn Eryri gan gynnwys llwybrau drwy goetir a theithiau ar hyd glannau llynnoedd.

Bydd rhai cyfleusterau lleol yn gweithredu ar oriau gostyngedig, ond mae digonedd o gyfleoedd i fwynhau diodydd a phrydau o flaen tanllwyth o dân yn y tafarndai lleol. Bydd hi hefyd yn dymor awyr dywyll Eryri yn ystod y gaeaf—perffaith ar gyfer unrhyw astro-ffotograffwyr brwdfrydig.

Tymor y gaeaf yw’r tymor tawelaf o ran niferoedd ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, gall gwyliau’r Nadolig a Flwyddyn Newydd fod yn gyfnodau hynod o brysur.

Gall y tywydd oer a gwlyb swnio’n anymunol ian i lawr ond, gyda digonedd o haenau gwrth-ddŵr cynnes, gall ymweld ag Eryri yn ystod y gaeaf fod yn brofiad hudolus.

Oherwydd y tywydd oer, bydd llawer o feysydd gwersylla a safleoedd glampio ar gau felly bydd angen i chi ymchwilio i opsiynau hunanarlwyo, gwely a brecwast neu westy os am aros yn Eryri dros y gaeaf.

Os ydych chi’n ystyried ymweld yn ystod y Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd, bydd angen i chi archebu’ch llety ymlaen llaw i osgoi siom.

Yn ogystal, mae rhai busnesau fel tafarndai a bwytai yn tueddu i gau trwy gydol mis Ionawr ac weithiau cyn belled â mis Chwefror.

Llety (Gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr)

Bydd angen i chi fod yn hynod o ofalus os ydych yn ystyried cyrraedd rhai o gopaon Eryri yn ystod y gaeaf. Gall yr amodau gaeafol ofyn am brofiad a dealltwriaeth drylwyr o fynydda yn y gaeaf. Mae gwefan Adventure Smart yn llawn adnoddau defnyddiol ar gyfer diogelwch yn y mynyddoedd.

Mentro’n Gall yn y Gaeaf (Gwefan Adventure Smart)

Bydd y rhan helaeth o wersyllfannau a meysydd glampio ar gau yn ystod y gaeaf felly bydd gofyn i chi ymchwilio i opsiynau hunanarlwyo, gwely a brecwast neu westai os am aros dros nos yn Eryri yn ystod y gaeaf.