Taith heriol dros gyfres o gopaon llai adnabyddus yn y Parc Cenedlaethol.

I’r dwyrain o Gader Idris, ger tref Dolgellau, mae Cefnen Waen-oer yn daith gerdded llafurus dros sawl copa bychan. Yn ystod y daith 6 awr hon, byddwch yn cyrraedd copaon Maesglase, Craig Portas, Cribin Fawr a Waun-oer, yn ogystal ag esgyn llethrau Mynydd Ceiswyn a Bwlch Llyn Bach.

Mae’r llwybr dafliad carreg i ffwrdd o ffin ddeheuol y Parc Cenedlaethol ac yn dilyn cyrion Coedwig Dyfi.

Pam y llwybr hwn?

Fel llwybr llafurus, gall Cefnen Waen-oer  fod yn ddewis gwych i’r rhai sy’n awyddus i gael her mewn ardal dawelach o’r Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, sicrhewch bob amser fod gennych chi a’ch grŵp y lefelau ffitrwydd priodol cyn mentro ar y mathau hyn o lwybrau.

Mae cefnen Waen-oer yn arddangos cyfoeth o olygfannau deniadol o ddyffrynnoedd syfrdanol, copaon swynol a chribau pellgyrhaeddol.

Yn addas ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd.  Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau
Maes parcio Dinas Mawddwy (SH 859 149)

Diwedd
Maes parcio Bwlch Llyn Bach ar yr A487 (SH 753 135)

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Dinas Mawddwy
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Maes Parcio Bwlch Llyn Bach (A487)
View on What 3 Words
View on Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cyngor ar Ddiogelwch
Cod Cefn Gwlad

Llam y Lladron

Yr ochr arall i gefnen Waen-oer mae Bwlch Llyn Bach. Roedd llyn yn arfer bod ar ben y bwlch cyn adeiladu ffordd yr A487 drwyddo. Ger y llyn hwn y taflwyd troseddwyr i’w marwolaeth o ben craig o’r enw Llam y Lladron!

Gwylliaid Cochion Mawddwy

Yn ystod yr 16eg ganrif, roedd Dinas Mawddwy yn gartref i griw o ladron pen-ffordd o’r enw Gwylliaid Cochion Mawddwy. Dywedir fod eu henw yn tarddu o’u gwallt tanllyd-goch.

Roedd gan Gwylliaid Cochion Mawddwy eu harferion a’u defodau eu hunain a oedd yn codi ofn ar drigolion yr ardal. Mae llawer o giamocs y Gwylliaid wedi’u gwreiddio mewn llên gwerin; fodd bynnag, mae rhai cofnodion hanesyddol yn bodoli—sef eu llofruddiaeth o’r Barwn Lewis ab Owen fel dial am ddedfrydu aelodau’r grŵp i’r crocbren.

Mytholeg a Llên Gwerin yn Eryri

Hugh Jones, Maesglasau

Bydd llwybr Cefnen Waen-oer yn mynd â chi drwy gwm Maesglasau—cartref Hugh Jones (1749–1825), bardd ac emynydd Cymreig. Gwaith mwyaf adnabyddus Hugh Jones yw’r emyn ‘O! Tyn y gorchudd yn y mynydd hwn’.

Yr emyn sy’n ysbrydoli nofel arobryn Angharad Price O! Tyn y Gorchudd. Mae’r nofel yn hunangofiant dychmygol i hen fodryb yr awdur a drigai ym Maesglasau. Fe’i hystyrir yn gampwaith llenyddol Cymraeg, yn cynnwys portread o agosatrwydd o gymdeithas wledig Cymru yn ystod yr 20fed ganrif.

Pobol Eryri

Llwybrau ucheldir eraill