Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Cartref i gyfoeth o drysorau i’w darganfod a’u mwynhau

Mae tirwedd ddi-ben-draw Eryri yn gartref i gyfoeth o drysorau i’w darganfod a’u mwynhau. O’r pyllau pellennig cudd i’r copaon uchel anfarwol. Y rhywogaethau bregus a phrin i ddiwylliant byrlymus ac unigryw.

Wild carneddau pony stares into the camera
Tirweddau a bywyd gwyllt
Tirweddau o amrywiaeth syfrdanol a bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol—dyma rai o atyniadau mwyaf y Parc Cenedlaethol.
Tirweddau a Bywyd Gwyllt
A farmer looks over her fields
Diwylliant, Iaith a Chymuned
Mae ardal y Parc Cenedlaethol wedi ysbrydoli llu o artistiaid o bedwar ban byd ac yn gadarnle i ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig.
Diwylliant, Iaith a Chymuned
A gwenwn wrth droedio’r cynteddau creigiog hyn gan fod eiliadau yma, yn gallu goleuo oes...—Ifor ap Glyn
Llun drôn o Gastell Dolbadarn
Hanes a Threftadaeth
Mae Eryri yn gefnlen i hanes a threftadaeth gyfoethog. O henebion cerrig i gestyll canoloesol, mae'r dirwedd yn llawn hanes a thraddodiad yn barod i’w ddarganfod.
Hanes a Threftadaeth
Iaith a Diwylliant
Enwau lleoedd
Mae’r Gymraeg yn iaith ddydd i ddydd i ran helaeth o drigolion Eryri ac mae hi i’w gweld yn enwau lleoedd unigryw rhai o ardaloedd y Parc Cenedlaethol.
Hanes a Threftadaeth
Yr Ysgwrn
Cartref un o feirdd amlycaf Cymru a symbol i draddodiad barddonol a diwylliant Cymreig.

Tirweddau a Bywyd Gwyllt
Awyr Dywyll
Mae byd newydd i’w ddarganfod rhwng machlud a gwawr Eryri.
Tirweddau a Bywyd Gwyllt
Mawndiroedd
Mae’r tirweddau gwlyb hyn yn un o gyfrinachau pwysicaf y Parc Cenedlaethol.
Tirweddau a Bywyd Gwyllt
Ucheldiroedd
O gopa enwog Yr Wyddfa i’r copaon anghysbell tawel, mae ucheldiroedd Eryri yn baradwys i gerddwyr a chrwydrwyr yn ogystal â bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol.
Darganfod Eryri

Canfod cymunedau agos atoch chi, iaith leiafrifol hynafol, tirweddau di-ben-draw a rhywogaethau anhygoel.

Hunaniaeth gymunedol gryf
Mae cymunedau Eryri wedi eu gwasgaru dros bum tref a phedwar ar hugain o bentrefi—pob un â hunaniaeth gref y mae ei thrigolion a'i hymwelwyr yn ei theimlo'n ddwfn.
Yr Iaith Gymraeg
Mae bywiogrwydd yr iaith Gymraeg yn Eryri yn un o ffactorau diffiniol y Parc Cenedlaethol. Dyma yw mamiaith mwyafrif cymunedau'r Parc.
Tirwedd syfrdanol
Mae gan Eryri naw cadwyn o fynyddoedd, pymtheg copa uwch na 3000 troedfedd a thair milltir ar hugain o arfordir ysgubol.
Daeareg Cyfareddol
500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Yr Wyddfa o dan ddŵr y môr.
Rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol
Mae Eryri yn gartref i nifer o rywogaethau o anifeiliaid, pryfed, planhigion a ffyngau o bwysigrwydd rhyngwladol.
Rhywogaethau prin
Un o rywogaethau prinnaf Eryri yw Lili’r Wyddfa—planhigyn sydd i'w weld ar y copaon uchaf yn unig.