Ucheldiroedd arallfydol, coedwigoedd cyfareddol, dyfroedd hudol ac arfordiroedd anfarwol
823 milltir sgwâr o dirwedd ddramatig ble mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr. Llynnoedd a llecynnau i adennill heddwch. Cribau ymyl cyllell sy’n cipio’ch gwynt. Rhaeadrau ewynnog, dyffrynnoedd gwyrddion eang, corsydd hynafol a ffrydiau o afonydd gwyllt.
Ucheldiroedd Arallfydol
Rhan fawr o atyniad Parc Cenedlaethol Eryri ydi ei hucheldiroedd diddiwedd. Mae copaon dihafal Eryri yn atynnu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn gartref i fywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol.
Darganfod Ucheldiroedd
Coedwigoedd Cyfareddol
Mae posib darganfod byd newydd o dan ganopi coedwigoedd Eryri. O drysorau cudd coedwigoedd hynafol i lonyddwch a distawrwydd coedlannau neilltuedig.
Darganfod Coedwigoedd
Dyfroedd Hudol
Rhaeadrau ewynnol hudol, pyllau pellennig heddychlon ac afonydd sy’n glymau drwy’r tir. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i ddyfroedd diddiwedd.
Darganfod Llynnoedd ac Afonydd
Arfordir Anfarwol
Mae arfordir Eryri yn gartref i gynefinoedd twyni tywod sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae cynefinoedd o’r fath yn dod yn gynefinoedd prin ar draws y byd.
Darganfod yr Arfordir
Trysorau cudd awyroedd dywyll Eryri
Mae llawer o rywogaethau'r Parc Cenedlaethol yn llwyrddibynnol ar dywyllwch y nos. Daw byd newydd o greaduriaid a thrysorau i’r wyneb rhwng machlud a gwawr.
Darganfod Awyr Dywyll