Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Taith gerdded heriol i un o gopaon îs a llai adnabyddus Eryri

Mae Crimpiau yn gopa bychan ar ymyl deheuol y Carneddau. Saif pentref Capel Curig wrth ei odre.

Mae’r llwybr yn croesi tirweddau amrywiol wrth ddringo i’r copa, gan gynnwys coetir brodorol, rhostir a gweundir agored – cynefin delfrydol ar gyfer amrywiaeth o lystyfiant a bywyd gwyllt.

Pam y llwybr hwn?

Er nad yw Crimpiau yn un o gopaon uchaf Eryri o bell ffordd, mae’r llwybr i’r copa yn dal i fod yn daith heriol ar draws cymysgedd o dirweddau.

I gerddwyr profiadol, gall Crimpiau gynnig golygfeydd trawiadol o gopaon a dyffrynnoedd y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Pedol yr Wyddfa, Dyffryn Mymbyr, Dyffryn Ogwen, Tryfan a Dyffryn Conwy.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus. Dim ond ar gyfer cerddwyr gwledig profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd y mae’n addas. Mae sgiliau ar gyfer llywio’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.

Dechrau/Diwedd
Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig (SH 720 582)

Map Perthnasol
Arolwg Ordans OS Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Capel Curig
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Evan Roberts

Pentref Capel Curig, lle mae llwybr y Crimpiau yn cychwyn, oedd cartref y botanegydd a’r cadwraethwr Cymreig Evan Roberts.

Roedd Evan Roberts yn fotanegydd a gydnabyddir yn rhyngwladol a gasglodd wybodaeth ddigyffelyb bron am blanhigion gogledd Cymru. Bu’n gweithio fel chwarelwr am 40 mlynedd cyntaf ei oes. Ym 1956, dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru. Cymaint oedd ei gyfraniad i’w faes, peintiwyd portread o Evan Roberts gan Syr Kyffin Williams yn 1990.

Darganfyddwch lwybrau eraill