Taith fer ond heriol sydd yn cysylltu Pen y Gwryd â Phen y Pass
Mae Pen y Gwryd yn fwlch ar odre deheuol yr Wyddfa sy’n arwain i lawr tuag at Nant Gwynant. Dyma lle mae bryniau aruthrol yr Wyddfa yn disgyn yn ddramatig i’r dyffryn islaw, ac mae ffyrdd troellog yn ymdroelli drwy’r clogwyni creigiog.
Pam y llwybr hwn?
Llwybr mynediad agored a grëwyd yn benodol i gysylltu Pen y Pass a’r meysydd parcio ym Mhen y Gwryd. Mae defnyddio’r llwybr 1km hwn yn llawer mwy diogel na cherdded ar hyd yr A4086, gan ei wneud yn opsiwn da os ydych yn cerdded i fyny’r Wyddfa o feysydd parcio Pen y Gwryd.
Gall hefyd fod yn opsiwn gwych i’r rhai sy’n chwilio am daith gerdded heriol ond byr yn ardal yr Wyddfa.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau ar gyfer cyfeiriannu’r daith yn hanfodol. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw. Gall hefyd gynnwys rhai rhannau o sgramblo. Mae offer cerdded mynydda llawn yn hanfodol. Mae’n bosib y bydd angen offer arbenigol dan amodau’r gaeaf.
Dechrau
Pen y Gwryd oddi ar yr A498 (SH659556)
Diwedd
Maes parcio Pen y Pass, oddi ar yr A4086 (SH647557)
Map OS Perthnasol
OS Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Cilfan dynodedig ger Pen y Gwryd (Talu ac arddangos)
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Gwesty Pen y Gwryd
Saif Gwesty Pen y Gwryd ar ben y bwlch ac mae’n enwog am fod y gwesty lle mae mynyddwyr yn aros pan y maent wedi dod i Eryri i gymryd rhan mewn hyfforddiant.
Ymysg y mynyddwyr mwyaf nodedig i aros yn y gwesty mae’r rhai fu’n rhan o daith lwyddiannus gyntaf Everest ym 1953. Mae llofnodion y tîm i’w gweld ar nenfwd ystafell fwyta’r gwesty, gan gynnwys Syr Edmund Hillary a Tenzing Norgay.
Mae Gwesty Pen y Gwryd, yn wreiddiol yn ffermdy sydd yn dyddio’n ôl i 1811, yn parhau i groesawu llawer o fynyddwyr i’r ardal. Mae ei waliau wedi’u haddurno â lluniau a pethau cofiadwy o’i chysylltiadau mynydda, sy’n golygu ei bod bron yn amgueddfa o hanes helaeth o fynydda Eryri.
Pen y Pass
Mae Pen y Pass yn golygu ‘pen y bwlch’ neu ‘ddiwedd y bwlch’ a dyma bwynt uchaf Bwlch Llanberis, sy’n rhedeg rhwng cadwyni mynyddoedd y Glyder a’r Wyddfa.
Mae dau o’r chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa yn cychwyn ym Mhen y Pass, sy’n golygu ei bod yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.
Adeiladwyd Bwlch Llanberis yn y 1830au i ganiatáu cludo mwyn o fwyngloddiau’r Wyddfa i Lanberis. Byddai gweithiwyr y mwynglawdd yn cario’r mwyn i lawr Llwybr y Mwynwyr i Ben y Pass, ac yna byddai’n cael ei gludo i Lanberis.