Llwybr pren a saif o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn

Mae llwybr Benar yn llwybr pren sy’n ymestyn allan i lannau tywodlyd Traeth Benar.

Mae’r traeth wedi’i leoli rhwng Harlech ac Abermaw ac yn edrych dros Fae Ceredigion. I’r gogledd o’r llwybr pren saif Morfa Dyffryn—un o systemau twyni tywod pwysicaf Cymru.

Pam y llwybr hwn?

Mae Traeth Benar yn cael ei ystyried yn un o draethau harddaf yr ardal ac yn sefyll o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn.

Mae system dwyni tywod Morfa Dyffryn yn dirwedd arfordirol drawiadol sy’n enwog am ei chyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion arbenigol sy’n amrywio o dymor i dymor.

Mae’r llwybr pren yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, gan ei wneud yn lle gwych i dreulio amser ger y môr, yn mwynhau golygfeydd draw at Llŷn ac Ynys Enlli.

Noder bod y traeth yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae arwyddion i nodi hyn.

A member of the public using the Tramper on the Benar boardwalk
Defnyddio'r Tramper ar Lwybr Pren Benar

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn  a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.

Dechrau /Diwedd
Maes Parcio Morfa Dyffryn (SH 572 224)

Map OS perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Prynu Map

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes parcio Morfa Dyffryn

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Mae’r llwybr pren yn hawdd ei gyrraedd o’r maes parcio ac mae’n ddigon gwastad a llydan ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. Fodd bynnag, gall tywod gronni ar rai rhannau o’r llwybr pren, gan ei gwneud hi’n anodd croesi.

Mae golygfan gyda mainc bicnic ar ddiwedd y llwybr pren. Mae byrddau picnic hefyd yn y maes parcio.

Mae toiled hygyrch ger y maes parcio sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Noder fod y cyfleusterau ar agor yn dymhorol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd

Cais Llogi Tramper ar gyfer Llwybr Pren Traeth Benar
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri

Byddwch yn ddiogel a helpu i warchod yr arfordir drwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Morol. 

Diogelwch
Cod Morol

Morfa Dyffryn

I’r gogledd o Draeth Benar saif Morfa Dyffryn, Gwarchodfa Natur Genedlaethol o bwysigrwydd cenedlaethol. Ynghyd â Morfa Harlech i’r de, mae’r ddwy warchodfa’n ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni ar hyd yr arfordir.

Er y gall yr ardal edrych yn foel a diffrwyth, mae’n gyforiog o fywyd. Mae’r twyni tywod yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid arbennig, sydd wedi addasu’n arbennig i fywyd ar ymyl y môr.

Gelwir yr ardaloedd gwastad rhwng y twyni yn ‘llaciau’. Yn y gaeaf, maent yn mynd yn llawn dŵr ac yn aml yn aros yn llaith ymhell i’r haf. Mae’r llaciau yn datblygu arddangosfa liwgar o flodau gwyllt sy’n gwneud Morfa Dyffryn yn lle ardderchog ar gyfer gloÿnnod byw a phryfed. Yn ogystal, gellir dod o hyd i rai rhywogaethau di-asgwrn-cefn sy’n brin yn genedlaethol yma.

Mae’r glaswelltiroedd tywodlyd yn cynnig amodau tyfu perffaith ar gyfer rhai ffyngau twyni trawiadol ac unigryw. Mae’r twyni hefyd yn cynnal poblogaethau sylweddol o adar sy’n magu. Mae’r ysgyfarnog yn magu yn yr ardal, tra bod y cilfachau, y corsydd a’r pyllau yn gartref i nadroedd y gwair a madfallod dŵr cribog.

Llwybrau hygyrch eraill