Y ffordd orau o brofi’r hyn sy’n gwneud Eryri mor arbennig yw archwilio’r milltiroedd o lwybrau a theithiau cerdded ar draws y dirwedd.

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol 1,497 milltir o lwybrau sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i chi ymgolli’n llwyr yn rhai o rinweddau unigryw Eryri.

Mae llawer o fanteision eraill i gerdded yn Eryri, gan gynnwys gwella ein hiechyd a lles corfforol a meddyliol.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau o lwybrau cyn dechrau ar eich taith trwy ddarllen gwybodaeth am Raddfeydd Llwybrau.

Hidlo canlyniadau
Lleoliad
Gradd
Amser
Amgylchoedd
Math o lwybr
Rhinweddau arbennig
Llwybrau hygyrch
Llwybr y Mwynwyr
Llwybr y Mwynwyr
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 13 km 6 awr
Llwybr serth a chreigiog i gopa'r Wyddfa gan gychwyn o Ben y Pass.
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Anodd/Llafurus
Circular route 10 km 5 awr
Llwybr hir trwy geunentydd arallfydol ac eangderau sydd yn llawn hanes diwydiannol
Llyn Tegid De
Llyn Tegid De
Cymedrol
Un ffordd 12 km 5 awr
Taith gerdded hir ar hyd glan ddeheuol llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid.
Llyn Tegid Gogledd
Llyn Tegid Gogledd
Cymedrol
Un ffordd 10 km 5 awr
Taith gerdded hir ar hyd bryniau gogleddol Llyn Tegid
Pen y Gwryd i Ben y Pass
Pen y Gwryd i Ben y Pass
Anodd/Llafurus
Yno ac yn ôl 2 km 1 awr
Taith fer ond heriol sydd yn cysylltu Pen y Gwryd â Phen y Pass
Pontydd Betws-y-coed
Pontydd Betws-y-coed
Hawdd
Circular route 3.6 km 0.75 awr
Taith hamddenol drwy bentref hardd Betws y Coed.
Rhaeadr Arthog a Llynnau Cregennan
Rhaeadr Arthog a Llynnau Cregennan
Cymedrol
Circular route 13.7 km 4 awr
Llwybr cymedrol drwy goetiroedd hynafol, heibio llynnoedd trawiadol ac ar hyd Aber Mawddach.
Map