Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Llyn naturiol mwyaf Cymru ac un o atyniadau fwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.

Yn mesur 3.5 milltir o hyd a thri chwarter milltir ar ei bwynt lletaf, Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Mae’r llyn yn le poblogaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr megis padl-fyrddio, canŵio, hwylfyrddio a physgota.

Man takes part in water
Trwyddedau Chwaraeon Dŵr
Bydd angen i chi brynu trwydded i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr fel padlfyrddio, canŵio a rhwyfo ar Lyn Tegid.
Trwyddedau Chwaraeon Dŵr
Llyn Tegid jetty streches into the lake
Trwyddedau Pysgota
Mae angen trwydded i bysgota yn Llyn Tegid. Darperir y trwyddedau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Trwyddedau Pysgota
Gwe-gamera Llyn Tegid
Ffrwd camera byw o flaendraeth Llyn Tegid.
Gwe-gamerâu
Cwestiynau cyffredin am Lyn Tegid

Gallwch brynu trwydded i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr drwy ddefnyddio’r peiriannau talu ac arddangos yn y meysydd parcio ar lan y llyn.

Trwyddedau Chwaraeon Dŵr

Ni chaniateir gwersylla dros nos ar lan y llyn nac yn y meysydd parcio.

Ceir rhagor o wybodaeth am wersylla yn Eryri ar y dudalen Gwersylla.

Gwersylla a Gwersylla Gwyllt
Carafanio a Chartrefi Modur

Mae croeso i gŵn yn Llyn Tegid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf am ddod â chŵn i Eryri yn gyntaf.

Cŵn yn Eryri

Na. Ni chaniateir tanio barbeciwiau ar lan y llyn.

Ar adegau yn ystod tymor yr haf, pan fo’r tywydd yn gynnes a’r dŵr yn llonydd, fe fydd algâu gwyrddlas gwenwynig yn Llyn Tegid. Chwiliwch am lysnafedd gwyrdd ar yr wyneb. Peidiwch â chyffwrdd na mynd i mewn i’r dŵr pan welwch lysnafedd ar yr wyneb, a rhowch wybod i warden y llyn cyn gynted â phosibl. Pan fydd algâu gwyrddlas wedi’u gweld ar y llyn, mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu ar wefan y Parc Cenedlaethol ac ar arwyddion o amgylch y llyn.

Gwybodaeth am algae gwyrdd-las

Gallwch gyrraedd y llyn o feysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae dau faes parcio—un ar flaendraeth y llyn ac un arall yn Llangower.

Meysydd Parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Mae pysgota yn weithgaredd poblogaidd yn Llyn Tegid. Gallwch bysgota trwy brynu trwydded bysgota. Mae trwyddedau dydd, wythnos a thymhorol ar gael ar dudalen gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Pysgota yn Llyn Tegid

Enwau Cymraeg ar lynnoedd wedi eu cerfio ar wal
Llyn Tegid a Tegid Foel
Mae rhai yn credu i Lyn Tegid gael ei enwi ar ôl Tegid Foel, brenin chwedlonol creulon. Dywedir i deyrnas Tegid Foel gael ei boddi oherwydd ei natur ddrwg.
Darganfod Enwau Lleoedd