Un o’r nifer o deithiau cerdded gyda golygfeydd trawiadol ac amrywiol  sydd wedi lleoli ar hyd Aber Afon Mawddach

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, nodwedd ddiffiniol Taith Panorama yw ei golygfeydd godidog dros Aber Mawddach, cadwyn mynyddoedd Cader Idris a Bae Ceredigion. Gan gychwyn o’r Bermo, bydd y llwybr llafurus, 4 milltir hwn yn eich arwain trwy goetir amrywiol, ar hyd ffyrdd gwledig troellog ac i gefn gwlad agored gyda golygfeydd o’r dirwedd o’i amgylch.

Pam y llwybr hwn?

Mae Llwybr Panorama yn un o’r nifer o lwybrau sydd wedi eu dotio ar hyd yr Afon Fawddach. Mae hi’n lwybr llafurus ac yn anaddas i gerddwyr dibrofiad. Os am ddewis mwy hygyrch, mae Llwybr Mawddach ar lan ddeheuol yr aber yn ddewis perffaith.

Mae gan y llwybr ddringfeydd serth ac fe all fod yn wlyb dan draed. Dylid gwisgo esgidiau addas mewn tywydd gwlyb.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Abermaw  (SH 625 166)

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Abermaw S
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Aber Afon y Fawddach

Mae aber helaeth a thywodlyd Mawddach yn un o ardaloedd mwyaf hynod y Parc Cenedlaethol.

Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd morfa heli a chynefinoedd mawn iseldir.

Mae cors Arthog gerllaw yn gartref i warchodfa natur yr RSPB yn llawn bywyd gwyllt anhygoel fel blodau prin, nadroedd y gwair, gloÿnnod byw a phob math o adar.

Roedd yr ardal hefyd yn ganolbwynt i ddiwydiant cyfoethog Eryri yn y gorffennol. Ar lan ogleddol yr aber, saif mwynglawdd aur hanesyddol Clogau yn uchel uwchben pentref Bontddu. Roedd cloddio am aur yn weithgaredd poblogaidd yn y maes hwn. Roedd panio aur hefyd yn digwydd yn afon Mawddach ei hun.

Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, bu’r Fawddach yn gartref i ddiwydiant adeiladu llongau prysur. Adeiladwyd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.

Pont Abermaw

I lawr tua diwedd aber y Fawddach saif Pont y Bermo, yn croesi rhwng glannau gogleddol a deheuol Afon Mawddach. Mae’r bont yn draphont reilffordd bren un trac Gradd II* sy’n ymestyn 820 metr rhwng gorsafoedd Morfa Mawddach a’r Bermo. Dyma’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac mae’n gyfystyr â golygfeydd o’r aber.

Gerddi Panorama

Roedd Abermaw yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr yn ystod oes Fictoria. Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr i bentref Cutiau, byddwch yn mynd heibio i hen ardd Fictoraidd a oedd yn boblogaidd yn y 1900au cynnar. Roedd ystafell de yn y gerddi a golygfa wych o’r ardal gyfagos.

Llwybrau eraill ar hyd Aber y Fawddach