Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arwain a chydweithio ar llu o brosiectau cadwraeth sy’n gwarchod a gwella rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r prosiectau’n gwarchod amrywiaeth eang o rinweddau megis tirweddau, bywyd gwyllt, treftadaeth a diwylliant.

Sefydlwyd prosiect Partneriaeth Tirwedd y Carneddau i helpu pobl i ddarganfod, cofnodi, dathlu a gofalu am yr ardal unigryw hon.

Prosiect gwerth £7 miliwn i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd Eryri i’w stâd gwreiddiol drwy bori cadwraethol a rheolaeth rhywogaethau ymledol.

Mae Prosiect Treflun Dolgellau yn gwarchod a dathlu treftadaeth gwefreiddiol treflun Dolgellau.

Mae’r feithrinfa goed ym Mhlas Tan y Bwlch yn hwyluso cyflenwad cyson a rheolaidd o goed ar gyfer prosiectau plannu coed yr Awdurdod.

Datblygu strategaeth mewn ymateb i astudiaeth ar ôl troed carbon.

Fel Awdurdod rydym wedi cychwyn ar genhadaeth hir-dymor i adfer cyflwr ein mawndiroedd. Gyda thraean o fawndiroedd Cymru yma yn Eryri, mae gennym dasg enfawr o’n blaenau

Datblygu dyfodol cynaliadwy i ardaloedd cadwraeth Eryri.

Cydweithio i wella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd yn ne’r Parc Cenedlaethol.

Mae Cynllun Ceidwaid Ifanc Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymgysylltu â rhinweddau arbennig ac unigryw Eryri.