Taith gerdded drwy’r goedwig ar gyrion Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog

Coedwig Graigddu yw’r byrraf o ddwy daith gerdded yn yr ardal hon. Bwlch Drws Ardudwy yw’r dewis arall hirach. Byddwch yn mynd heibio rhaeadr fechan ond prydferth Pistyll Gwyn a gweld golygfeydd godidog o dde Eryri ar eich ffordd.

Mae’r llwybr yn gyfle perffaith i ymweld a’r Rhinog, ardal sydd yn cael llai o ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol.

Pam y llwybr hwn?

Dywedir yn aml fod cadwyn mynyddoedd y Rhinogydd yn un o’r gwir wylltiroedd olaf yng Nghymru. Mae’r ardal greigiog hon sydd wedi’i gorchuddio â grug tua’r de o’r Parc Cenedlaethol yn Warchodfa Natur Genedlaethol ddynodedig ac mae’n gartref i doreth o rywogaethau pwysig a phrin.

Fel llwybr hamddenol, gall fod yn addas ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith i rannau llai adnabyddus o’r Parc Cenedlaethol neu ar daith anturus gyda’r teulu.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hamddenol. Mae’n addas ar gyfer pobl â lefel rhesymol/cymedrol o ffitrwydd. Gall y tir gynnwys llwybrau gwledig heb wyneb a thir bryniog. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad  dal dŵr.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Coed Graigddu

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog & Bala)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Parcio am ddim ger Coed Graigddu 

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog

Bydd llwybr Coedwig Graigddu yn mynd â chi i gyrion Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog – ardal sy’n gartref i lawer o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Mae’r rhostir, sy’n gorchuddio bron i 70% o’r warchodfa, wedi’i atalnodi gan frigiadau creigiog mynyddoedd y Rhinogydd, gan gynnwys Rhinog Fawr, Rhinog Fach, Y Llethr a Moel Ysgyfarnod i enwi ond ychydig.

Mae ardaloedd coediog y warchodfa yn cynnwys cymysgedd o goed ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer gwahanol fwsoglau, llysiau’r afu, ffyngau, trychfilod, adar ac ystlumod.

Mae llawer o lynnoedd llai Eryri yn galw gwarchodfa’r Rhinog yn gartref iddynt, gan gynnwys Llyn Du a Llyn Cwmhosan.

Darganfyddwch lwybrau eraill yn y Parc Cenedlaethol